Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Amdanom Ni

Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw'r wefan GwerthwchiGymru newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw:

  • helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru
  • helpu prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendr
  • helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
  • helpu busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd tendro addas

Bob blwyddyn bydd gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon. Caiff y contractau hyn eu cynnig gan amrywiaeth eang o gyrff sy'n cael eu hariannu drwy ffynonellau cyhoeddus, yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • ymddiriedolaethau GIG
  • colegau a phrifysgolion

Gall y rhai sy'n ennill contractau gynnig cyfleoedd is-gontractio trwy ganfod busnesau addas a'u gwahodd i roi amcanbris am waith a thendro am gontractau.

Ar y safle hwn cewch:

  • system sydd wedi ei symleiddio lle fedrwch chi gofnodi cyfleoedd tendr
  • cofrestru am ddim a defnydd llawn o'r holl adnoddau i'ch ehlpu chi i chwilio am gyfleoedd tendro
  • mynediad at wasanaethau caffael gyda'i gilydd mewn un man
  • y gallu i hysbysebu tendrau ac i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus
  • rhybuddion e-bost i gyflenwyr o'r cyfleoedd busnes diweddaraf
  • gwybodaeth am gontractau a chaffael am ddim
  • astudiaethau achos o ddefnyddwyr GwerthwchiGymru
  • y cyfle i chwilio am y newyddion a'r digwyddiadau caffael diweddaraf
  • cyfathrebu mwy hwylus rhwng prynwyr a chyflenwyr

Canfod mwy am y manteision i gyflenwyr, prynwyr a chontractwyr yma