Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Datganiad Hygyrchedd


Defnyddio’r wefan hon

Proactis Tenders Ltd sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.


Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifio mewn un golofn pan fyddwch yn chwyddo i 400%
  • nid yw rhai dolenni yn dangos disgrifiad priodol pan gânt eu hofran dros
  • nid oes gan rai fideos gapsiynau
  • nid yw rhai adrannau wedi'u marcio fel rhestrau (cyd-lywio Enw Brynwr)
  • mae rhai cysylltiadau nad ydynt wedi'u tanlinellu
  • mae rhai elfennau'n cysylltu ag angorau nad ydynt yn gadael
  • nid yw iaith pob tudalen mewn rhai tudalennau wedi'i nodi mewn HTML
  • nid oes gan rai rheolyddion ffurflen labeli a chwedlau
  • nid oes gan bob tudalen benawdau ac nid oes gan rai tablau benawdau

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 4 diwrnod.


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: Cysylltwch â ni


Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).


Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

We provide a ‘contact us’ form for people who are D/deaf, hearing impaired or have a speech impediment.

Darganfod sut i gysylltu â ni yma.


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Proactis Tenders Ltd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.


Problemau â thechnoleg

Fydd y testun ddim yn ail-lifio mewn un golofn pan fyddwch chi'n chwyddo i mewn i 400%

Rydym wedi asesu’r gost o drwsio’r problemau hyn ac yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall y tro nesaf y byddwn yn ailddatblygu’r wefan yn sylweddol.


Problemau gyda’r testun

Nid yw rhai dolenni yn dangos disgrifiad priodol pan gânt eu hofran dros

Nid yw rhai adrannau wedi'u marcio fel rhestrau (cyd-lywio Enw Brynwr)

Mae rhai cysylltiadau nad ydynt wedi'u tanlinellu

Nid oes labeli a chwedlau gan rai rheolyddion ffurf

Nid oes gan bob tudalen benawdau ac nid oes gan rai tablau benawdau

Rydym yn bwriadu trwsio’r dolenni presennol erbyn mis cyn gynted â phosibl. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn gwneud yn siŵr bod testun y ddolen yn diwallu safonau hygyrchedd.


Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Dydi nifer o’n dogfennau PDF a Word hŷn ddim yn diwallu safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen darllen sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.


Problemau â delweddau, fideos a sain

Nid oes gan rai o'n fideos gapsiynau.

Rydym ni’n bwriadu ychwanegu testun amgen ar ddelweddau yn yr hafan erbyn mis cyn gynted â phosibl. Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw wedi’i eithrio rhag diwallu’r rheoliadau hygyrchedd.


Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion

Mae rhai elfennau'n cysylltu ag angorau nad ydynt yn gadael

Nid yw HTML yn nodi iaith pob tudalen mewn rhai tudalennau

Bwriadwn ddatrys yr holl faterion a grybwyllir yn yr adran cyn gynted â phosibl.


Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Caiff y wefan hon ei phrofi'n barhaus gennym ni drwy Wasanaeth o'r enw Silktide ac fe'i profwyd diwethaf ar y 29ain o Orffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Proactis Tenders Limited gan ddefnyddio'r gwasanaeth o'r enw Silktide.

Yn ystod y prawf a gynhaliwyd gennym ar 29 Gorffennaf, profwyd yr holl dudalennau y gall defnyddwyr eu defnyddio cyn mewngofnodi i'w cofrestriad.


Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu profi pob tudalen o'n porth yn barhaus er mwyn nodi unrhyw faterion hygyrchedd. Yr ydym yn bwriadu datrys unrhyw faterion hysbys fel prosiect parhaus pan fyddwn yn dod o hyd i fanylion y rheini.


Paratowyd y datganiad hwn ar y 27ain o Awst 2020. Fe'i diweddarwyd diwethaf ar y 27ain o Awst 2020.