Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Mae'r Ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth am Hysbysiadau Preifatrwydd Cofrestru Defnyddiwr ac Ymholiad Defnyddiwr


Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflen Gofrestru GwerthwchiGymru


Mae'r Ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth am Hysbysiadau Preifatrwydd Cofrestru Defnyddiwr ac Ymholiad Defnyddiwr

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 18/06/2018

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i GwerthwchiGymru ac Proactis Tenders Limited, ac yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi y caiff eich data personol eu prosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

1 Cymerwch ychydig o amser i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd.

Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol rydych wedi’u darparu ar ffurflen gofrestru GwerthwchiGymru. Caiff y data eu storio ar system TG GwerthwchiGymru gan ein darparwr trydydd parti, Proactis Tenders Limited; mae angen gwneud hyn er mwyn i chi allu gweld manylion contract cyhoeddedig a chymryd rhan yn y broses gaffael drwy GwerthwchiGymru.

Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu ag unrhyw sefydliadau trydydd parti anghysylltiedig.

2 Pwy fydd yn gallu gweld eich data:

  • Fel prynwr bydd eich manylion ar gael i'r cyhoedd.
  • Fel cyflenwr bydd eich manylion ar gael er mwyn i sefydliadau prynu sydd wedi'u cofrestru ar GwerthwchiGymru chwilio amdanynt a'u gweld.
  • Bydd tîm GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr system Proactis Tenders Limited sy'n cynnal y system TG yn gallu gweld eich manylion. Ni fydd gweinyddwyr y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd ac eithrio er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol i chi neu i Lywodraeth Cymru.
  • Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth a gasglwyd fel rhan o unrhyw gyfle i ennill contract a gyhoeddir drwy TED (Tendrau Electronig Dyddiol) yn golygu bod angen gadael gwefan GwerthwchiGymru a defnyddio gwasanaethau eraill y bydd ganddynt eu rheolau eu hunain ar fynediad a nodir yn eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain.

3 Am ba hyd y cedwir eich manylion:

Cedwir eich manylion ar ein systemau yn unol â pholisi cadw data GwerthwchiGymru.

  • Bydd cyfrif unrhyw ddefnyddiwr nad yw'n mewngofnodi am 12 mis yn cael ei archifo. Ar ôl y cyfnod hwn bydd angen cyflwyno cais drwy e-bost i ailactifadu’r cyfrif.
  • Bydd cyfrif unrhyw ddefnyddiwr nad yw'n mewngofnodi o fewn 24 mis ar ôl i'w gyfrif gael ei archifo, yn cael ei ddileu.
  • Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth a gasglwyd fel rhan o unrhyw gyfle i ennill contract a gyhoeddwyd drwy TED (Tendrau Electronig Dyddiol) yn golygu bod angen gadael gwefan GwerthwchiGymru a defnyddio gwasanaethau eraill y bydd ganddynt eu set eu hunain o reolau cadw data a nodir yn eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain.

4 Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
  • gofyn inni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hynny;
  • (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data;
  • (o dan amgylchiadau penodol) gofyn i'ch data gael eu 'dileu’;
  • anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 603 000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni sydd ar gael yn https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni

5 Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth a roddwch inni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn ceisio eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

6 Newidiadau i'r Hysbysiad hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Caiff newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn weithredol ar unwaith. Pan wneir newidiadau i'r hysbysiad hwn byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i nodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i weld y fersiwn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:  dataprotectionofficer@llyw.cymru

 

Hysbysiad Preifatrwydd – Ymholiad i GwerthwchiGymru

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 18/06/2018

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i GwerthwchiGymru ac Proactis Tenders Limited, ac yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Cymerwch ychydig o amser i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych ar gyfer ymholiad i GwerthwchiGymru. Caiff y wybodaeth a roddwch inni ei defnyddio i greu cofnod ar ein systemau TG am eich ymholiad i GwerthwchiGymru; bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn briodol.

1 Pwy fydd yn gallu gweld eich data:

  • Defnyddir y data hyn gan Lywodraeth Cymru a GwerthwchiGymru i ymateb yn briodol i'ch ymholiad.
  • Bydd timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a Proactis Tenders Ltd. sy'n cynnal y system TG yn gallu gweld y wybodaeth a gasglwyd. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

2 Am ba hyd y cedwir eich manylion

Cedwir eich manylion ar ein systemau yn unol â pholisi cadw data Llywodraeth Cymru am hyd at 3 blynedd fel rhan o'n hadolygiadau parhaus o hyfforddiant ac ansawdd.

3 Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
  • gofyn inni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data
  • (o dan amgylchiadau penodol) gofyn i'ch data gael eu 'dileu’
  • anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod ffoniwch Linell Gymorth GwerthwchiGymru ar 0800 222 9004 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni sydd ar gael https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/AboutUs/aboutus_contactus.aspx

4 Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth a roddwch inni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn ceisio eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

5 Newidiadau i'r hysbysiad hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Caiff newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn weithredol ar unwaith. Pan wneir newidiadau i'r hysbysiad hwn byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i nodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i weld y fersiwn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad Post:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:  dataprotectionofficer@llyw.cymru