Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Resources for Change

Mae Resources for Change(R4C) yn ymgynghoriaeth dan berchnogaeth y gweithwyr, sy’n ymddwyn mewn modd cyfrifol yn gymdeithasol ac sydd ag enw arbennig o dda am arloesi wrth gynnwys pobl yn eu gwaith. echreuodd Resources for Change fel cwmni ym maes rheoli amgylcheddol c erbyn heddiw rydym yn parhau i gysylltu ein arbenigedd yn y maes hwn gyda’r gwaith o edrych ar integreiddio pobl a'u hamgylchedd. Cafodd R4C ei sefydlu yn wreiddiol ym mis Ionawr 1997 gan Steve Evison, mewn ymateb i ddulliau a oedd yn newid ym maes datblygu cynaliadwy.

Manylion

Rydym yn cynnwys pobl mewn newid cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu sefydliadol a chymunedol. Oherwydd ein bod yn gweithio ar lawr gwlad ac yn strategol, rydym wedi magu enw da am 'gau'r bwlch' rhwng sectorau a sicrhau canlyniadau go iawn sy'n para am gyfnod hir. 

Rydym yn gweithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol - mewn cymunedau gwledig, trefol a chymunedau o gwmpas trefi. Mae ein cleientiaid a ninnau yn elwa ar hyn am fod modd cyfnewid technegau a phrofiadau, rhwng ardaloedd daearyddol a meysydd thematig. Dyma'r prif gwasanaethau rydym yn eu cynnig:
·           ymgynghori â rhanddeiliaid a hwyluso'r gwaith hwnnw
·           arfarnu, monitro a gwerthuso
·           datblygu strategaeth amgylcheddol/gwledig yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
·           casglu, coladu a chyflwyno gwybodaeth
·           datblygu sefydliadol
·           astudiaethau economaidd-gymdeithasol
·           hyfforddiant
·           cymorth ar gyfer prosiectau tramor

Mae gennym safle yn y canolbarth ac mae ein tîm yn gweithio i raddau helaeth o'u cartrefi yng Nghymru, Swydd Amwythig, Swydd Efrog, Llundain a Gorllewin Sussex. Hefyd mae gennym dîm o swyddogion cyswllt ledled y wlad. Maent ar gael i ddarparu unrhyw arbenigedd ychwanegol y bydd ei angen ar gleientiaid a hynny am gost realistig.

Rydym wedi bod yn defnyddio GwerthwchiGymru ers rhai blynyddoedd bellach ac rydym wedi ennill nifer o dendrau. Gallwch ddarllen amdanynt ac am ein gwaith arall ar ein gwefan.