Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - iData

Mae iData yn gwmni cyfathrebiadau wedi’i hen sefydlu yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Rydym yn edrych ar ffyrdd mae technoleg a chynnyrch newydd yn gallu bod o fantais i’n cleientiaid nawr ac i’r dyfodol. A ninnau’n credu’n angerddol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, rydym yn ymfalchïo yn ein tîm o arbenigwyr a fydd yn arwain unrhyw gwmni drwy’r pydew o ddewisiadau cyfathrebu sydd ar gael iddynt. Rydym yn gwmni wedi’i hen sefydlu yn yr Wyddgrug, sir y Fflint.


Manylion

Sefydlwyd y cwmni’n wreiddiol yn 2008 gan 3 unigolyn a oedd yn wybodus iawn am dechnoleg symudol ac yn teimlo’n angerddol am y dechnoleg hon. Bellach mae iData yn mynd o nerth i nerth gyda dros 20 o weithwyr. Nawr mae gan y cwmni adran TG sylweddol a thîm gwerthu a gwasanaeth i gwsmeriaid dynodedig gyda phob un ohonom yn teimlo’n angerddol am brofiad y cwsmer, gwybodaeth arbenigol a gwerth am arian.
Mae ein tîm ceblau strwythuredig, yn ogystal â’n tîm gwych yn y swyddfa, wedi golygu ein bod wedi llwyddo i ddod yn gyflenwr o ddewis ar gyfer y cytundeb fframwaith gwasanaethau ceblau strwythuredig. Cawsom y sgôr uchaf yn y meini prawf caffael, yn cynnwys yr adrannau gallu technegol ac ansawdd y gwasanaeth. Ar ôl ennill y tendr hwn, gallwn nawr gynnig ein gwasanaethau yn ehangach i Ogledd Orllewin Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr. Pe na byddem wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru, mae’n bosib y byddai iData wedi methu’r cyfle hwn.
Rydym hefyd wedi cyflogi siaradwr Cymraeg sy’n cyfrannu at ein profiad i gwsmeriaid ac yn ein helpu i gyrraedd carfan newydd o gwsmeriaid.
Rydym yn cael hysbysiadau e-bost gan GwerthwchiGymru sy’n rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar ymgeisio am dendrau newydd. Hefyd, mae’r adran ddigwyddiadau a’r cyfeiriadur busnes yn cyfrannu at yr ystod o offer cymorth sydd ar gael ar GwerthwchiGymru.
Meddai James Wilson, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
“Bydden i’n cynghori pob busnes bach a chanolig i gofrestru ar GwerthwchiGymru ac i fod yn rhagweithiol wrth chwilio am dendrau. Dylech chwilio am gontractau a dysgu wrth y rhai sydd wedi’u dyfarnu, gan sylwi beth sydd angen ei wneud i ennill tendrau a beth sy’n ddisgwyliedig ohonoch. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, dewiswch eich tendrau’n ofalus a chredwch yng nghryfderau eich cwmni.”

Ffôn: 0844 84 76 766
E-bost: info@idata.uk.com  
www.idata.uk.com