Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Matthews Confidential Shredding

Mae Matthews Confidential Shredding yn fusnes teuluol ym Mhenlle’r-gaer, Abertawe. Rydym yn gwmni bach sy’n cyflogi 4 o bobl sy’n cynnig Diogelwch a Thawelwch Meddwl i lawer o sefydliadau ledled de Cymru. Yn syml, rydym yn casglu Gwastraff Cyfrinachol o’ch eiddo ac yn ei ddinistrio, yn unol â phrotocolau BS EN 15713:2009, heb gyfaddawdu eich data cyfrinachol.

Manylion

Ffurfiwyd Matthews Confidential Shredding ym 1997 ar ôl trafod â Chyfrifwyr am y ffordd fwyaf diogel o ddinistrio eu Harchif Cyfrinachol. O’r cychwyn digon syml hwn, prynodd Matthews beiriant rhwygo mawr gan ymrwymo i ddarparu gwasanaeth diogel a chost effeithiol er mwyn dinistrio gwastraff papur cyfrinachol.

Rydym wedi canfod sawl cyfle drwy wefan GwerthwchiGymru. Rydym hefyd wedi llwyddo i gynnig cefnogaeth 3ydd parti i amrywiol sefydliadau mwy sy’n cyflenwi contractau un pwynt cyswllt i gleientiaid dan gytundebau “Contract Gwastraff” cyffredinol, lle mae rhwygo papur yn rhan fechan, ond bwysig, o’r contract. 

Yr her fwyaf a wynebwn o hyd yw bod yn weladwy mewn marchnad ar-lein lle mae ein cystadleuwyr yn aml yn gwmnïau rhyngwladol gyda chyllidebau marchnata sylweddol. Rydym yn gweithio’n galed i gynnal presenoldeb ar-lein fel bod ein darpar gwsmeriaid ledled de Cymru yn sylweddoli bod dewis cost effeithiol ar gael sy’n golygu bod yr arian a wariant yn aros yn ne Cymru.

Mae GwerthwchiGymru yn rhoi cyfle i’r holl sefydliadau cofrestredig gefnogi’r economi leol lle mae’r arian a wariant yn cylchdroi yn economi Cymru. O gofio’r amgylchedd economaidd heriol a'r dyfodol ansicr a wynebwn y dyddiau hyn, mae dewis GwerthwchiGymru yn rhoi seiliau cadarn i Gymru er mwyn symud ymlaen.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar GwerthwchiGymru, sicrhewch fod eich proffil yn cynnwys y wybodaeth berthnasol ddiweddaraf a chadwch lygad yn wythnosol am gyfleoedd contract newydd.

Nick Hardwidge
Matthews Confidential Shredding

www.mcswales.com