Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Mediascene Ltd

Mae Mediascene yn arbenigwyr ymdrin ag ymatebion a phost uniongyrchol wedi'u lleoli yng Nghwm Rhymni ac maent yn cyflogi dros 35 o bobl. Rydym wedi bod mewn busnes ers 1984.

Manylion

Rydym yn darparu gwasanaethau prosesu data, personoli ac amgáu amlenni, drwy beiriannau ac â llaw.  Mae gennym hefyd ganolfan gyswllt ac is-adran archebu drwy'r post lle rydym yn derbyn archebion ac ymholiadau ac yn anfon, llenyddiaeth, samplau a chynnyrch.



Rydym yn meddu ar achrediadau ISO am ein prosesau diogelwch data, ansawdd ac amgylcheddol.



Rydym wedi cynnwys proffil ar GwerthwchiGymru am nifer o flynyddoedd ac rydym wedi ennill contractau gyda sawl cyngor yng Nghymru yn ogystal â chyda Llywodraeth Cymru.



Os ydych am gynnal busnes yng Nghymru, mae GwerthwchiGymru yn hanfodol.