Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Kelray Building Maintenance Ltd

Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.

Manylion

Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.

Gyda 30 mlynedd o brofiad o fewn y diwydiant, arferai Carl Raynes, y 
Rheolwr Gyfarwyddwr weithio fel unig fasnachwr cyn iddo sefydlu cwmni
cyfyngedig  yn 2004. Mae'r cwmni yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw
adeiladau, adeiladu, rheoli eiddo ac amgylchedd hylan. Rydym yn arbenigo
mewn adnewyddu ffatrïoedd a gosod lloriau diwydiannol.

Dros y blynyddoedd, mae llwyddiant Kelray wedi mynd o nerth i nerth ac
rydym yn ymfalchïo yn ein henw da a'r berthynas gref a pharhaus sy'n
bodoli rhyngom ni â chleientiaid proffil uchel.  Yn 2005, roedd Kelray
yn falch o ennill Gwobr Datblygu Busnes  am ddatblygu 'Gwasanaeth i 
Gwsmeriaid, Effeithlonrwydd Busnes a Hyfforddi Staff'. Wedi hynny,
cafodd y cwmni ei wahodd i 10 Stryd Downing i gael cydnabyddiaeth am
waith y cwmni o fewn y diwydiant.

Mae Kelray wedi bod yn gweithio gyda GwerthwchiGymru am nifer o
flynyddoedd ac mae wedi elwa ar hynny.  Rydym wedi bod i nifer o
gyfarfodydd ac rydym yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y swyddi sy'n
berthnasol i'r math o waith yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi cael nifer o
gontractau yn sgil ein cysylltiad â GwerthwchiGymru. Y contract mwyaf
gwerthfawr inni oedd contract blwyddyn gyda Chyngor Torfaen yn 2011. 
Roedd y contract yn cynnwys gwneud gwaith ar dai i bobl ddigartref o
fewn eu cymunedau lleol.  Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu eiddo gwag
a gwneud y gwaith cynnal a chadw yn ôl yr angen. Cyflogwyd  staff 
chwanegol i gwblhau’r gwaith. Gwnaethom fwynhau gweithio ar y prosiect
hwn a chynorthwyo'r gymuned.

Wedi inni gofrestru gyda GwerthwchiGymru mae wedi bod yn haws dod o hyd i
brosiectau posibl o fewn ein sector, ac mae'n rhoi'r cyfle inni i
werthu ein cwmni'n effeithiol i gwsmeriaid.

Gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol: Trydar:@kelraybmltd  
Facebook: Kelray Building Maintenance Ltd