Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Village Websmith in Tintern

Mae'r Village Websmith yn helpu busnesau bach i hyrwyddo eu hunain, ar y rhyngrwyd yn bennaf, ond hefyd drwy ddeunydd printiedig, gan eu helpu gydag ymgyrchoedd gwerthu a threfnu grwpiau rhwydweithio busnes. Yr hyn sy'n wahanol yw ein defnydd o iaith a delweddau sy'n gwerthu, yna gosod gwybodaeth lle y bydd yn cael ei gweld a deall marchnadoedd a chwilotwyr.

Manylion

Mae'r Village Websmith yn helpu busnesau bach i hyrwyddo eu hunain, ar y
rhyngrwyd yn bennaf, ond hefyd drwy ddeunydd printiedig, gan eu helpu
gydag ymgyrchoedd gwerthu a threfnu grwpiau rhwydweithio busnes.  Yr hyn
sy'n wahanol yw ein defnydd o iaith a delweddau sy'n gwerthu, yna gosod
gwybodaeth lle y bydd yn cael ei gweld a deall marchnadoedd a
chwilotwyr.



A ninnau'n masnachu yng Nghymru ers 2003, mae'r brand bellach wedi'i
fasnachfreinio i rannau eraill o'r DU, gan greu presenoldeb ar y we ar
gyfer eu cwsmeriaid drwy ddefnyddio Webinthebox®, ein masnachnod
cofrestredig ar gyfer system rheoli cynnwys.  Mae hyn yn galluogi
masnachfreintiau i ganolbwyntio ar y cynnwys a hyrwyddo yn hytrach na'r
dechnoleg.  Llandeglau oedd man geni ein busnes a'n cynnyrch, ond rydym
wedi ein lleoli yn Nhyndyrn erbyn hyn.



Daw ein llwyddiant yn bennaf drwy argymhellion ar lafar o'r nifer o
fusnesau bach rydym wedi eu helpu i gael cwsmeriaid mewn marchnad
gystadleuol iawn.  Gwneud gwaith gwych yw'r dechrau yn unig a rhaid mynd
i chwilio am atgyfeiriadau, ac yna gweithredu arnynt.  Ar hyn o bryd
rydym yn paratoi ymatebion tendr i gyfleoedd a gafwyd drwy
GwerthwchiGymru, a allai gynyddu ein trosiant blynyddol tua 30% yn y
flwyddyn i ddod.



I helpu busnesau bach fel ein un ni, byddem yn argymell rhwydweithio ar
bob lefel a phob llwyfan sydd ar gael, gan chwilio am gyfleoedd fel y
rhai a hysbysebir ar GwerthwchiGymru.  Pan welaf gyfle wedi'i restru yno
nad yw'n briodol i'r hyn rydym yn ei wneud, rwy'n gwahodd cwsmer sydd
yn y diwydiant hwnnw i gofrestru a dilyn y cyfle hwnnw.  Yn y modd hwn,
rydym yn helpu'r bobl sydd wedi prynu gennym ac rydym yn eu hannog i
wneud yr un peth i ni.



Mae cael canolbwynt cryf yn lleol yn help mawr hefyd.  Rydym yn aelodau o
Gymdeithas Dwristiaeth Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena ac rwyf wedi cadw
lle ar gwrs hyfforddi i ddod yn Llysgennad ar gyfer Sir Fynwy, a dylai'r
ddau gysylltiad hyn helpu i gryfhau ein perthynas â chwsmeriaid lleol.