Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - OCON fire and security Ltd

Sefydlwyd OCON 9 mlynedd yn ôl gan Andrew Davies. Mae Andrew wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant tân a diogelwch ers dros 20 mlynedd ac wedi gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y busnes. Heddiw, rydym yn cyflogi 27 o staff mewn 2 swyddfa; mae ein swyddfa yn y canolbarth yn arbenigo mewn systemau tân a diogelwch masnachol a domestig ac mae yno adran arbenigol mewn olew a nwy morol. Mae ein depo yng ngogledd Lloegr yn delio’n bennaf â’r diwydiannau morol, olew a nwy.

Manylion

Sefydlwyd OCON 9 mlynedd yn ôl gan Andrew Davies.  Mae Andrew wedi bod
yn ymwneud â’r diwydiant tân a diogelwch ers dros 20 mlynedd ac wedi
gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y busnes. Heddiw, rydym yn
cyflogi 27 o staff mewn 2 swyddfa; mae ein swyddfa yn y canolbarth yn
arbenigo mewn systemau tân a diogelwch masnachol a domestig ac mae yno
adran arbenigol mewn olew a nwy morol.  Mae ein depo yng ngogledd Lloegr
yn delio’n bennaf â’r diwydiannau morol, olew a nwy.

Rydym yn darparu gwasanaethau cyflawn i gwmnïau ynghylch eu hanghenion
tân a diogelwch, popeth o ymgynghori a dylunio systemau i osod,
gwasanaethu a chynnig gwasanaeth galw allan cyflym.  Mae ein cwsmeriaid
yn teimlo eu bod nhw mewn dwylo diogel pan maen nhw’n delio â ni.

Ers ymuno â GwerthwchiGymru a’i ddefnyddio’n rhagweithiol, rydym wedi
ennill llawer o gontractau mawr.  Mae gennym amrywiaeth eang o
gwsmeriaid – popeth o gwsmeriaid preswyl gyda larymau ty syml i
gontractau mawr gyda chyrff fel Cyngor Sir Benfro, Heddlu Dyfed Powys,
purfa olew Murco a First Milk.

Un o fanteision defnyddio GwerthwchiGymru i OCON yw’r ffaith bod e-bost
gyda manylion contractau newydd yn cael ei anfon aton ni bob bore.  Mae
hyn yn golygu nad oes raid i’n tîm gwerthu gysylltu’n rheolaidd ag
adrannau caffael i holi ynghylch cyfleoedd tendro newydd.  Yn hytrach na
gorfod cwrso’n ddiddiwedd am dendrau newydd, mae’r tîm gwerthu’n gallu
canolbwyntio ar ehangu’r busnes mewn meysydd eraill

Mae defnyddio “geiriau allweddol” ac “ardaloedd” yn gwneud hi’n gynt i
ddod o hyd i dendrau addas heb gael ein llethu gan fanylion tendrau
anaddas.  Mae’n hawdd iawn cael eich llethu gan wybodaeth amherthnasol;
gan fod GwerthwchiGymru yn ffiltro unrhyw wybodaeth amherthnasol, dim
ond yr wybodaeth sy’n berthnasol i ni sy’n ein cyrraedd.

Boed y cwsmer yn chwilio am larwm diogelwch, CCTV, diffoddwyr tân, help i
reoli mynediad, systemau atal neu systemau darganfod nwy, mae
GwerthwchiGymru wedi’n helpu i dyfu yn gyflym iawn mewn cyfnod digon
anodd.

Byddem ni’n annog unrhyw un sy’n awyddus i ehangu ei fusnes ac ennill
contractau mawr ymuno â GwerthwchiGymru – dyma’r ffordd ymlaen!

Ian Davies, Rheolwr Datblygu Busnes, OCON Fire and Security Ltd

Twitter
- @oconfireandsecu

Facebook
- https://www.facebook.com/pages/OCON-Fire-Security-Ltd/460127960730591?fref=ts

LinkedIn
- https://www.linkedin.com/company/ocon-fire-and-security.co.uk?trk=tyah