Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol – Prynu unwaith dros Gymru
Croeso i ' ardal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC).
Drwy gydweithio mae’r GCC yn rheoli'r gwaith o gyflenwi contractau a fframweithiau sector cyhoeddus Cymru gyfan ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae’r biblinell diweddaraf yn dwyn ynghyd pwer prynu o oddeutu £0.5biliwn ar gyfer categorïau gwariant cyffredin ac ailadroddus.
Mae dros 70 o sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ymuno fel aelodau’r GCC gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol, y GIG, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC), Llywodraeth Cymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (WGSBs), gwasanaethau Tân a’r Heddlu, ac Addysg Uwch a Phellach.
Piblinell y GCC 2017 – 2022
Caiff pob gweithgarwch caffael y GCC ei gynllunio a'i drefnu yn y Biblinel .sydd ar gael at ddefnydd pawb.
Mae'r biblinell yn gallu newid ac mae yn cael ei ddatblygu i gwrdd ag anghenion sefydliadau sy'n aelodau’r GCC.
Cyflenwyr:
Cyhoeddir holl hysbysiadau contract y GCC yn yr ardal pori’r hysbysiadau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o'r hysbysiadau contract,
cofrestrwch amewngofnodwch yma
Prynwyr:
Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac eisiau caffael nwyddau a gwasanaethau drwy gontractau a fframweithiau'r GCC, gofynnir i chi gofrestru neu mewngofnodi yma: