Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Astudiaeth Achos - Astudiaeth achos LinguaSkin

Rydym yn fusnes meddalwedd bach a chanolig a leolir yng Nghasnewydd sy'n canolbwyntio'n arbennig ar wella cymwysiadau'r we a gwefannau drwy adnodd amlieithog (yn achos Cymru ac Iwerddon – dwyieithog) gan ddefnyddio ein datrysiad LinguaSkin. Mae LinguaSkin yn mewnosod dewisydd iaith fel y gall defnyddiwr ddewis ei iaith cyn disodli'r holl destun yn rhyngwyneb y defnyddiwr â thestun sydd wedi'i gyfieithu ymlaen llaw. Gwna hyn heb fod angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cymhwysiad, felly mae'n ddelfrydol i ddatrysiadau trydydd parti a chwmwl. Defnyddir LinguaSkin gan fwy na 30 o sefydliadau yng Nghymru i wneud ceisiadau ar-lein, o system hunanwasanaeth adnoddau dynol i gynllunio, derbyniadau myfyrwyr a thaliadau arian cinio ysgol, ac mae'n ddwyieithog ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau o ran y Gymraeg. Caiff ei ddefnyddio hefyd mewn marchnadoedd dwyieithog eraill, fel Iwerddon, ac yn fwy cyffredinol ar gyfer galluoedd amlieithog, cydymffurfio o ran hygyrchedd ac SEO amlieithog.

Manylion

 

Hanes Byr
Mae'r busnes wedi bod yn masnachu ers 2014.

Cafodd cysyniad LinguaSkin ei gyflwyno ar ffurf prototeip gan fusnes blaenorol (Draig Technology). Pan gafodd y busnes hwnnw ei werthu yn 2012, caffaelwyd LinguaSkin ac IPR eraill yn ymwneud â thechnoleg iaith, gyda'r nod o'i ddefnyddio fel sail busnes newydd.

Roedd y ddwy flynedd gyntaf yn gyfnod ymchwil a datblygu fwy neu lai gyda chwsmeriaid beta yn 2016 a'n cwsmeriaid cwbl fasnachol cychwynnol a wnaeth ymuno yn 2016/2017. Bellach, mae gennym tua 40 o weithrediadau o blith dros 30 o gwsmeriaid, yn ogystal â phartneriaethau â nifer o werthwyr meddalwedd mawr a darparwyr datrysiadau byd-eang.

Sut mae GwerthwchiGymru wedi eich helpu?

Defnyddiwn GwerthwchiGymru bob dydd (drwy hysbysiadau) er mwyn cael gwybod am ofynion meddalwedd diweddaraf y sector cyhoeddus yng Nghymru.

O bryd i'w gilydd gall fod hysbysiad contract â gofyniad penodol am ein gwasanaethau, er ein bod yn dod o hyd i'r rhan fwyaf o gyfleoedd drwy:

- Gontractau fframwaith: cymerwn ran mewn amrywiaeth o fframweithiau, gan ei gwneud yn haws i'n cwsmeriaid gaffael oddi wrthym yn barhaus

- digwyddiadau cwrdd â'r prynwr, hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw a chyfarfodydd cyflenwyr: mae hyn yn ein galluogi i gyfrannu at drafodaeth am ofynion posibl ac, yr un mor bwysig, gwrdd a sefydlu partneriaethau â chyflenwyr eraill

- Hysbysiadau contract: lle mae ein gallu (meddalwedd amlieithog) yn rhan o'r gofyniad. Byddwn yn partneru (is-gontractio) â darparwr datrysiadau mwy o faint ar gyfer y rhain, gan nid yn unig roi'r cyfle i ni fod yn rhan o brosiect mwy ond hefyd ffurfio partneriaethau a all esgor ar ragor o gyfleoedd.

At ei gilydd, mae GwerthwchiGymru yn adnodd hanfodol i'n marchnad allweddol. Drwy fod yn arweinydd marchnad, technoleg a syniadau yn ein maes arbenigedd, rydym wedi ennill sawl contract strategol bwysig, yn annibynnol ac fel partner iau sydd wedi bod yn hollbwysig i sefydlu a thyfu ein busnes.

Ydych chi'n defnyddio'r Gymraeg fel rhan o'ch busnes?

Ydym. Perthnasedd ein gallu i'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw dwyieithrwydd Cymraeg/Saesneg, ac mae gennym gryn dipyn o brofiad ym maes gallu meddalwedd ddwyieithog. Felly, mae gennym ddealltwriaeth ardderchog o'r gofynion er mwyn sicrhau bod meddalwedd yn cefnogi'r Gymraeg mewn ffordd gynhwysfawr a chyfartal.

Er nad yw ein sylfaenydd yn siaradwr Cymraeg rhugl a bod ein marchnadoedd yn fyd-eang, pryd bynnag y byddwn yn gweithio yng Nghymru anelwn at weithredu'n ddwyieithog, yn enwedig o ran ein marchnata. Credwn nad oes angen i ni fod yn rhugl yn y Gymraeg yn unigol nac yn bersonol i gefnogi'r iaith a chyfrannu ati o ran ei datblygiad, ei defnydd, ei hargaeledd a sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn gyfartal.

Byddwn hefyd yn parhau i gynnig To Bach (cyfleuster bysellfwrdd ar gyfer y Gymraeg, a ddatblygwyd gan Draig Technology yn wreiddiol) sydd am ddim drwy ein gwefan, ac a ddefnyddir gan fwy na 200,000 o ddefnyddwyr.

Beth fu eich her fwyaf hyd yn hyn? 

Ffocws.

Yr her fwyaf a pharhaus yw canfod ffocws a'i gynnal. Mae cyfleoedd di-ri i ni arallgyfeirio i bob math o ddatrysiadau sy'n fuddiol yn fasnachol. Er bod y demtasiwn yno o hyd, rydym hefyd yn gwybod bod cynnal ein ffocws ac arbenigo yn ein galluogi i arwain y farchnad. Cadwn ein neges, ein dulliau marchnata a'n hunaniaeth yn glir ac yn uniongyrchol.

Ffocws yw'r wers fwyaf a ddysgwyd, ein her fwyaf, ond hefyd ein hased fwyaf.

Beth yw buddiannau defnyddio GwerthwchiGymru yn eich barn chi?

Yn bennaf oll y gallu i weld beth sy'n digwydd yn y farchnad yng Nghymru. Mae'r hysbysiadau dyddiol yn rhoi diweddariad parhaus i ni o ran yr hyn mae'r farchnad yn chwilio amdano, mae hysbysiadau dyfarniadau yn dweud wrthym pwy sy'n ennill gwaith yng Nghymru, beth maent yn ei wneud ac â phwy y dylem fod yn cydweithio.

Yr un mor bwysig, pan fo cyfle yn iawn i ni, y gallu i ymateb i hysbysiad contract, ac yn y pen draw ddefnyddio

GwerthwchiGymru fel adnodd sy'n ein galluogi i ennill busnes newydd.

Unrhyw gyngor i fusnesau eraill

Rhaid cael ffocws – strategaeth glir a chynllun tactegol i gyflawni'r strategaeth honno.

Rhaid i'r strategaeth arwain y farchnad, gyda ffocws digon tynn i'ch galluogi i wneud hynny. Ond heb gynllun (tactegol) ni fydd strategaeth yn fwy na dyhead. Bydd cynllun tactegol heb strategaeth yn eich cadw'n brysur ond bydd yn ddigyfeiriad.

www.linguaskin.com
Linkedin:  https://www.linkedin.com/in/richard-sheppard-4462a97/  
Twitter:@linguaskin