Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Cwestiynau Cyffredin

Cyflenwyr 01 - A allaf gael rhybuddion drwy e-bost ar gyfer Hysbysiadau a gyhoeddir

Cyflenwyr 02 – A allaf lawrlwytho'r holl ddogfennau ar unwaith?

Cyflenwyr 03 – A ellir ychwanegu gwybodaeth ar ôl i Hysbysiad am Dendr gael ei gyhoeddi?

Cyflenwyr 04 – Sut mae chwilio am Hysbysiad?

Cyflenwyr 05 – A oes cyfyngiadau ar faint fy nghyflwyniad Blwch Postio / Ymateb?

Cyflenwyr 07 – Sut mae anfon fy ymateb os nad oes Blwch Postio?

Cyflenwyr 08 – Ble y gallaf gofrestru ar gyfer Dyfynbrisiau Cyflym / Cais am Ddyfynbrisiau?

Cyflenwyr 09 -Cafodd fy nghwmni wahoddiad i gyflwyno Dyfynbris ond ni allaf weld yr Hysbysiad Cyflym

Cyflenwyr 10 – Ni all Prynwr ddod o hyd i mi wrth chwilio ar GwerthwchiGymru

Cyflenwyr 11 – A yw'r Dyfynbris Cyflym wedi cael ei ddyfarnu?

Cyflenwyr 12 – Beth yw'r Blwch Postio?

Cyflenwyr 12 – Sut y byddaf yn gwybod pan fydd Hysbysiad o Ddyfarnu Contract wedi cael ei gyhoeddi?

Cyflenwyr 13 – Sut mae dad-danysgrifio o Rybuddion am Hysbysiadau / Cylchlythyrau?

ESPD 01 - Beth yw'r ddogfen caffael sengl Ewropeaidd? (ESPD)

ESPD 02 - Sut y bydd y broses newydd yn gweithio?

ESPD 03 - Beth am ddewis holiaduron?

ESPD 04 - Bydd ESPD newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer pob gweithdrefn tendr?

ESPD 05 - Sut bydd y ESPD gael eu gwirio o ran cywirdeb?

ESPD 06 - Bydd y ESPD yn effeithio ar is-gontractwyr?

ESPD 07 - ESPD neu holiadur dethol?

Pob Defnyddiwr 01 – Beth yw GwerthwchiGymru?

Pob Defnyddiwr 02 – Pwy ddylai ddefnyddio GwerthwchiGymru?

Pob Defnyddiwr 03 – A oes angen talu i ddefnyddio GwerthwchiGymru?

Pob Defnyddiwr 04 – Ai dim ond cyflenwyr o Gymru sy'n gallu defnyddio'r wefan?

Pob Defnyddiwr 05 – Pa wiriadau a gynhelir mewn perthynas â Chyflenwyr sy'n cofrestru ar GwerthwchiG

Pob Defnyddiwr 06 – Gyda phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf broblem gyda'r wefan?

Pob Defnyddiwr 07 – Beth yw Categorïau Hysbysiadau?

Pob Defnyddiwr 08 – Beth yw trothwyon hysbysebu presennol Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd?

Pob Defnyddiwr 09 – A all Cyflenwr gael manylion Hysbysiad o Gontract heb gofrestru ar y wefan?

Pob Defnyddiwr 10 – Beth yw Dyfynbris Cyflym?

Pob Defnyddiwr 11 – Beth yw'r cyfleuster 'Canfod Cyflenwr'?

Pob Defnyddiwr 12 – Beth yw Codau CPV?

Pob Defnyddiwr 13 – Am faint o amser y bydd Cwestiynau ac Atebion i'w gweld?

Pob Defnyddiwr 14 – Am faint o amser y bydd y wybodaeth am dendrau blaenorol ar gael?

Pob Defnyddiwr 15 – Sut mae dadgofrestru / cau fy nghyfrif?

Pob Defnyddiwr 16 – Sut mae dad-danysgrifio o'r Cylchlythyrau?

Prynwyr 01 - Fel Prynwr, pa lefelau mynediad sydd eu hangen arnaf?

Prynwyr 02 – Sut y gall Prynwr ddechrau defnyddio'r wefan?

Prynwyr 03 – Pryd y bydd fy Hysbysiad yn ymddangos ar y wefan / yn OJEU?

Prynwyr 04 – A oes cyfyngiadau ar faint y dogfennau y gellir eu hatodi i Hysbysiad?

Prynwyr 05 – A oes angen i mi anfon fy Hysbysiad ymlaen i OJEU?

Prynwyr 06 – A oes modd lawrlwytho cofnod Cwestiynau ac Atebion Hysbysiad?

Prynwyr 07 – Ble y bydd fy Hysbysiadau i'w gweld?

Prynwyr 08 – Sut mae sefydlu Asiant?

Prynwyr 09 – A allaf ychwanegu rhagor o Gyflenwyr at Ddyfynbris Cyflym ar ôl iddo gael ei gyflwyno?

Prynwyr 10 – A allaf gyflwyno Dyfynbris Cyflym i Gyflenwr nad yw wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru?

Prynwyr 11 – Beth os na allaf ddod o hyd i Gyflenwr?

Prynwyr 12 – Sut mae dyfarnu Hysbysiad?

Prynwyr 13 – A oes angen i mi gynnwys gwerth y contract mewn Hysbysiadau o Gontract?

Prynwyr 14 – A oes modd canslo Dyfarniad o Gontract?

Prynwyr 15 – Gyda phwy y dylwn gysylltu os nad oes gan ein Sefydliad Reolydd?

Prynwyr 16 – Sut mae chwilio am restr o Gyflenwyr gan ddefnyddio'r Codau CPV?

Cyflenwyr 01 - A allaf gael rhybuddion drwy e-bost ar gyfer Hysbysiadau a gyhoeddir

Gallwch. Gall Cyflenwyr greu Proffil Rhybuddion e-bost drwy ddewis Categorïau a Lleoliadau sy'n berthnasol i'w busnes. Gellir creu'r Proffil Rhybuddion drwy ddewis ‘Proffil Rhybuddion’ yn adran ‘Fy Mhroffil’ Panel Rheoli'r Cyflenwr. Ar ôl creu Proffil Rhybuddion, bydd Cyflenwyr yn cael neges e-bost bob tro y caiff Hysbysiad ei gyhoeddi sy'n cyfateb i'w Categorïau a'u Lleoliadau. Bydd dewis y Categorïau perthnasol a ddefnyddir gan eich Prynwr/Prynwyr yn gywir yn arwain at Rybuddion cywir.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 02 – A allaf lawrlwytho'r holl ddogfennau ar unwaith?

Gallwch. Ar ôl i chi fynegi diddordeb mewn Hysbysiad, byddech yn dewis y tab ‘Dogfennau’. Wedyn bydd modd naill ai lawrlwytho'r dogfennau'n unigol, neu lawrlwytho'r holl ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r Hysbysiad drwy ddewis ‘lawrlwytho'r holl ddogfennau cyfredol (Ffeil Sip)’.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 03 – A ellir ychwanegu gwybodaeth ar ôl i Hysbysiad am Dendr gael ei gyhoeddi?

Gall Cyflenwyr weld unrhyw Wybodaeth Ychwanegol a ychwanegwyd ar ôl i Hysbysiad gael ei gyhoeddi drwy ddewis y tab 'Gwybodaeth Bellach' ar yr Hysbysiad.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 04 – Sut mae chwilio am Hysbysiad?

Defnyddiwch y cyfleuster 'Porwch y Contractau' ar y bar dewislenni. O'r man hwnnw gallwch hidlo eich meini prawf chwilio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd Rhifau Cyfeirnod yn ymddangos yn y fformat 'JAN123456'. Os ydych wedi cael cyfeirnod gwahanol, chwiliwch gan ddefnyddio hidlyddion eraill neu cysylltwch â'r Ddesg Gymorth. Os ydych yn gwybod pa Brynwr sydd wedi cyhoeddi Hysbysiad, defnyddiwch y cyfleuster 'Chwiliwch am Brynwyr' ar y bar dewislenni i edrych ar ei Broffil Prynwr a gweld yr Hysbysiadau cysylltiedig.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 05 – A oes cyfyngiadau ar faint fy nghyflwyniad Blwch Postio / Ymateb?

Sicrhewch nad yw eich ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 10MB ar gyfer ffeiliau unigol ac nad yw'n gwneud cyfanswm eich Ymateb yn fwy na 30MB. Os yw maint y ffeil yn fwy na 10MB, rhannwch hi'n ffeiliau llai. Os yw'r cyfanswm yn fwy na 30MB, dylech anfon eich ymateb a chreu ymateb newydd er mwyn lanlwytho eich dogfennau ychwanegol iddo. Sicrhewch eich bod yn lanlwytho eich ffeil(iau) o'ch cyfrifiadur desg er mwyn gallu cwblhau'r broses yn gyflymach. Sicrhewch nad yw enw eich ffeil yn cynnwys unrhyw nodau arbennig, e.e. _ - ( ) , " £ &. Gall hyn olygu bod y broses lanlwytho'n cael ei therfynu. Sicrhewch nad yw eich dogfen ar agor ar eich cyfrifiadur. Byddai hyn yn rhwystro'r ffeil rhag lanlwytho'n llwyddiannus.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 07 – Sut mae anfon fy ymateb os nad oes Blwch Postio?

Os nad oes Blwch Postio ar gael ar y tendr, byddai angen i chi glicio ar y tab ‘Testun Llawn yr Hysbysiad’ er mwyn gweld i ble y dylid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau. Byddai'r manylion hyn i'w gweld yn Adran 1 y Testun Llawn fel arfer.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 08 – Ble y gallaf gofrestru ar gyfer Dyfynbrisiau Cyflym / Cais am Ddyfynbrisiau?

Drwy gofrestru ar y wefan, byddwch yn sicrhau bod modd eich gwahodd i gyflwyno Dyfynbrisiau Cyflym. Er mwyn gwella eich siawns o gael eich cynnwys mewn Dyfynbris Cyflym, llenwch eich Proffil Canfod Cyflenwr. Sylwer: gan mai dim ond drwy wahoddiad y gellir cyflwyno Dyfynbris Cyflym, nid yw'r ffaith eich bod wedi cofrestru yn golygu y byddwch yn sicr o gael gwahoddiad i gyflwyno Dyfynbris Cyflym.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 09 -Cafodd fy nghwmni wahoddiad i gyflwyno Dyfynbris ond ni allaf weld yr Hysbysiad Cyflym

Mae pob cyfrif Cyflenwr ar GwerthwchiGymru yn gyfrif unigol a dim ond y cyfrifon Cyflenwyr unigol a ddewiswyd i roi dyfynbris sy'n gallu gweld manylion y dyfynbris a chyflwyno ymateb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gyflenwr fewngofnodi gan ddefnyddio'r un cyfeiriad ag yr anfonwyd y gwahoddiad iddo; os anfonwyd y gwahoddiad at gydweithiwr, byddai angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio manylion yr unigolyn hwnnw. Ni fydd y ddolen yn y neges e-bost sy'n rhoi gwybod am wahoddiad i gyflwyno Dyfynbris Cyflym yn gweithio oni ddefnyddir manylion mewngofnodi'r sawl a gafodd y gwahoddiad.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 10 – Ni all Prynwr ddod o hyd i mi wrth chwilio ar GwerthwchiGymru

Os yw'r Prynwr yn gwybod enw'r Cyflenwr, dylai chwilio amdanoch gan ddefnyddio'r tab 'Cyflenwyr sy'n Cyfateb' ar y dudalen Dosbarthu Dyfynbris Cyflym. Byddai angen iddo roi tic yn y blwch 'Hepgor Categorïau Nwyddau' i ddod o hyd i chi. Gallwch ei helpu i ddod o hyd i chi drwy lenwi eich Proffil Canfod Cyflenwr hefyd. Os bydd yn parhau i gael anhawster dod o hyd i chi, a'ch bod yn sicr eich bod wedi cofrestru ar y wefan, dywedwch wrtho am gysylltu â'r Ddesg Gymorth.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 11 – A yw'r Dyfynbris Cyflym wedi cael ei ddyfarnu?

Pan fydd y Dyfynbris Cyflym wedi cael ei ddyfarnu, bydd pob parti yn derbyn neges e-bost a luniwyd gan y system yn nodi p'un a oedd yn llwyddiannus ai peidio. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â dyfarniad penodol, cysylltwch â'ch Prynwr yn uniongyrchol am gymorth.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 12 – Beth yw'r Blwch Postio?

Cyfleuster cyflwyno tendrau ar-lein sy'n galluogi Prynwyr i dderbyn ymatebion i dendrau gan Gyflenwyr mewn modd diogel yw'r Blwch Postio. Os oes symbol allwedd i'w weld wrth ochr yr Hysbysiad, mae'r Hysbysiad hwnnw'n cynnwys Blwch Postio. Caiff ymatebion eu cyflwyno i GwerthwchiGymru a'u cadw tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Gweler y canllawiau i ddefnyddwyr yn adran gymorth Panel Rheoli'r Cyflenwr: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 12 – Sut y byddaf yn gwybod pan fydd Hysbysiad o Ddyfarnu Contract wedi cael ei gyhoeddi?

Pan gaiff Hysbysiad o Ddyfarnu Contract ei greu, bydd y system yn dewis yr un Categorïau ag yr oedd ar yr Hysbysiad gwreiddiol. Pan gaiff y Dyfarniad o Hysbysu Contract ei gyhoeddi, bydd y Rhybuddion E-bost yn cael eu hanfon at Gyflenwyr y mae eu Proffil Rhybuddion yn cyfateb i nodweddion yr Hysbysiad. Gellir chwilio am Hysbysiad o Ddyfarnu Contract drwy edrych ar broffil eich Prynwr. Gwneir hyn drwy'r cyfleuster 'Chwiliwch am Brynwyr' ar y bar dewislenni. Byddech yn agor y tab 'Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract' ar Broffil y Prynwr. Bydd manylion y sawl sydd wedi ennill contract penodol i'w gweld ar y tab ‘Testun Llawn yr Hysbysiad’.

Nôl i'r brig

Cyflenwyr 13 – Sut mae dad-danysgrifio o Rybuddion am Hysbysiadau / Cylchlythyrau?

Os nad ydych yn dymuno derbyn Rhybuddion am Hysbysiadau drwy e-bost mwyach, dilynwch y cyfarwyddiadau isod: 'Fy Nghyfrif' (ar y bar dewislenni) > adran 'Fy Mhroffil' > 'Proffil Rhybuddion'. Wedyn, dewiswch “Golygu eich categorïau cynnyrch”. Ar y dudalen hon gallwch ddileu'r categorïau sydd wedi'u dewis. Pan na fydd unrhyw Gategorïau Cynnyrch wedi'u dewis, ni fydd unrhyw Rybuddion yn cael eu hanfon drwy e-bost. Os nad ydych yn dymuno derbyn Cylchlythyrau mwyach, dilynwch y ddolen isod a thynnwch y tic o'r blwch “Nodwch a hoffech dderbyn cylchlythyr drwy e-bost”: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/supplier/Subscriptions/Subs_list.aspx. Hefyd, mae modd newid y manylion cofrestru – gan gynnwys y cyfeiriad e-bost a'r enw sy'n gysylltiedig â'r cyfrif – i rai cydweithiwr. Gellir gwneud hyn drwy fynd i 'Fy Nghyfrif' (ar y bar dewislenni) > adran 'Fy Nghyfrif' > 'Manylion Defnyddiwr'. Ar y dudalen hon, gallwch ddiwygio unrhyw fanylion yn ôl yr angen. O hyn ymlaen, caiff pob neges e-bost ei hanfon i'r cyfeiriad newydd.

Nôl i'r brig

ESPD 01 - Beth yw'r ddogfen caffael sengl Ewropeaidd? (ESPD)

Roedd Cyfarwyddebau caffael newydd yr UE yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno ESPD a fwriedir gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddileu rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn caffael cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig. Yn y ESPD hunan ddatganiad o gyflenwr posibl ' statws ariannol, galluoedd ac addasrwydd ar gyfer gweithdrefn caffael cyhoeddus. Mae'n gwasanaethu bennaf fel tystiolaeth ragarweiniol o gyflawni amodau sydd eu hangen mewn gweithdrefn caffael cyhoeddus. Bydd ymgeiswyr bellach yn gorfod darparu tystiolaeth ddogfennol llawn a gwahanol ffurfiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol mewn caffael yr UE, sy'n golygu symleiddio sylweddol o'r broses dendro. Bydd y ESPD yn disodli'r gofyniad i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth ymlaen llaw neu dystysgrifau drwy ganiatáu iddynt hunan ddatgan bod yn bodloni'r meini prawf dethol ac allgáu perthnasol. Efallai y bydd gofyn cynigwyr ddarparu prawf o hyn yn ddiweddarach a bydd y cynigydd llwyddiannus fel arfer i ddarparu prawf cyn dyfarnu'r contract.

Nôl i'r brig

ESPD 02 - Sut y bydd y broses newydd yn gweithio?

Bydd prynwyr yn nodi eu dewis ac eithrio meini prawf, gan gynnwys unrhyw safonau gofynnol a dulliau ar gyfer llunio rhestr fer yn eu hysbysiad contract. Bydd wedyn yn cyhoeddi cais am ESPD ac yn ei gwneud ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y contract. Bydd ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno eu hymateb ESPD i'r prynwr, a fydd yn asesu addasrwydd pob cais yn erbyn y meini prawf wedi eu dewis.

Nôl i'r brig

ESPD 03 - Beth am ddewis holiaduron?

Bydd y ESPD yn cynnig dewis amgen i'r holiadur dethol, a dylid gwneud y broses o wneud cais am gontract cyhoeddus yn haws. Ei ddiben yw dileu rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn caffael cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd yn aml nad oes ganddynt yr adnoddau (amser/arian) i gwblhau dogfennau tendro cymhleth. Y dull dethol holiadur yn boblogaidd oherwydd bod prynwyr yn tueddu i ofyn cwestiynau yn y ffyrdd un, neu rai tebyg. Bydd y ESPD mewn gwirionedd yn adeiladu ar hyn fel y defnyddir un ffurflen safonol bellach ar draws Ewrop.

Nôl i'r brig

ESPD 04 - Bydd ESPD newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer pob gweithdrefn tendr?

Defnyddir yr un set o gwestiynau ledled yr UE, felly bydd modd i ail-ddefnyddio ffurflen a gyflwynwyd o'r blaen ar gyfer cystadleuaeth ar wahân, fel y wybodaeth yn gyfredol hyd yn ymgeisydd. Fodd bynnag, bob tro y bydd cyflenwr yn cyflwyno cais, bydd cais ESPD wedi eu cyflwyno yn ogystal. Bydd yn ddiddordeb y cyflenwr i ffurfweddu bob ESPD i gyd-fynd â gofynion bod ymarfer caffael unigol.

Nôl i'r brig

ESPD 05 - Sut bydd y ESPD gael eu gwirio o ran cywirdeb?

Yn ôl y gyfraith, mae cynigydd buddugol i gyflwyno pob un o'r tystysgrifau sy'n ofynnol a dogfennaeth, cyn iddynt gael contract. Gellir gofyn ymgeiswyr i gyflwyno eu tystiolaeth ar unrhyw adeg yn y broses gaffael os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y broses yn cael ei gynnal briodol. Os canfyddir bod ymgeisydd wedi camliwio ei hun, gall un neu ddau o bethau yn digwydd, gan ddibynnu ar natur y gamliwio: -Os yw'r cynigydd yn torri un o'r meysydd sydd yn sail orfodol ar gyfer gwahardd, neu os nad yw'n bodloni un o'r meini prawf gofynnol, rhaid i'r cynigydd hwnnw gael eu heithrio o'r gystadleuaeth. Gan ddibynnu ar natur a chyfnod y gystadleuaeth, gall hynny olygu naill ai yn parhau heb cynigydd penodol hwnnw, neu dylid ail-redeg y gystadleuaeth heb cynigydd hwnnw y tendr. -Os daw i'r amlwg bod busnes yn groes i ardal sydd yn sail ddisgresiynol dros allgáu, yna bydd y penderfyniad i wahardd cynigydd hwnnw ai peidio yn hyd at yr awdurdod prynu. Rhaid y penderfyniad hwn yn unol ag egwyddorion tryloywder, cymesuredd, cydraddoldeb triniaeth a gwrth-wahaniaethu Cytuniad yr UE. -Os yw'r mater yn fwy gweinyddol eu natur (e.e. camgymeriadau wrth ddarparu dogfennau), yna yr awdurdod bydd y dewis o wahodd y cynigydd i wneud diwygiadau i, neu egluro y dogfennau a ddarparwyd

Nôl i'r brig

ESPD 06 - Bydd y ESPD yn effeithio ar is-gontractwyr?

Os yn ymgeisydd yn dymuno is-gontractio rhan o'r contract, ac yn dibynnu'n llwyr ar yr is-gontractwr er mwyn cyflawni meini prawf dethol, rhaid cyflwyno ESPD ar wahân ar ran yr is-gontractwr. Gall yr awdurdod prynu yn ddewis i ofyn am ESPD ar wahân gan unrhyw is-gontractwr arall, er mwyn gwirio yn sail ar gyfer eithrio ai peidio. Os yw'r is-gontractwr mewn sefyllfa a fyddai'n arwain at ei wahardd gorfodol, bydd y cynigydd yn ofynnol i ddisodli hwnnw is-gontractwr. Mae'n bwysig iawn y cyflenwyr gynllunio ar gyfer y senario hwn yn gynnar yn y broses drwy ymgysylltu gydag is-gontractwyr a chael gwybodaeth gynnar yn ystod y broses gaffael.

Nôl i'r brig

ESPD 07 - ESPD neu holiadur dethol?

Efallai fod peth dryswch yn ystod y cyfnod pontio o PQQ safonol i holiadur dethol i y ESPD. Â 26 Medi 2016 Dylai cyflenwyr yn cael dim ond (y rhan fwyaf) holiadur dethol ond maent yn gymwys i gyflwyno ESPD os oes ganddynt un eisoes.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 01 – Beth yw GwerthwchiGymru?

GwerthwchiGymru yw'r porth hysbysebu cenedlaethol lle y gall sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru hysbysebu eu cyfleoedd am gontractau. Caiff Hysbysiadau cyhoeddus a Hysbysiadau gwahoddiad yn unig (Dyfynbrisiau Cyflym) eu cyhoeddi gan Brynwyr drwy'r wefan.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 02 – Pwy ddylai ddefnyddio GwerthwchiGymru?

Anogir holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio'r wefan fel eu prif adnodd ar gyfer hysbysebu hysbysiadau o gontract. Anogir prif gontractwyr ar gontractau cyhoeddus i ddefnyddio'r wefan i gyhoeddi eu cyfleoedd isgontractio.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 03 – A oes angen talu i ddefnyddio GwerthwchiGymru?

Nac oes. Darperir GwerthwchiGymru gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio am ddim gan Brynwyr a Chyflenwyr.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 04 – Ai dim ond cyflenwyr o Gymru sy'n gallu defnyddio'r wefan?

Na. Gall Cyflenwyr o unrhyw un o aelod-wladwriaethau Sefydliad Masnach y Byd gofrestru ar y wefan. Gellir gweld rhestr o wledydd yn Sefydliad Masnach y Byd drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.wto.org/english/thewto_e/whatis_e/tif_e/org6_e.htm

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 05 – Pa wiriadau a gynhelir mewn perthynas â Chyflenwyr sy'n cofrestru ar GwerthwchiG

Ar hyn o bryd, nid oes gan GwerthwchiGymru y gallu i gyflawni dadansoddiad busnes manwl na darparu gwybodaeth am wiriadau uniondeb ariannol. Fodd bynnag, mae'r system yn dilysu cyfeiriadau e-bost Cyflenwyr ar ran Prynwyr.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 06 – Gyda phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf broblem gyda'r wefan?

Dylai defnyddwyr GwerthwchiGymru gysylltu â Desg Gymorth y Wefan. Defnyddiwch y rhif ffôn neu'r opsiwn ‘Cysylltwch â ni’ ar frig y sgrin.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 07 – Beth yw Categorïau Hysbysiadau?

Bydd Prynwyr yn rhoi pob Hysbysiad mewn categori. Mae hyn yn hidlo'r holl Hysbysiadau sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer y cyfleuster Rhybuddion E-bost a'r cyfleuster 'Porwch y Contractau'.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 09 – A all Cyflenwr gael manylion Hysbysiad o Gontract heb gofrestru ar y wefan?

Mae'r wybodaeth a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru ar gael i bawb ei gweld. Gall unrhyw un ddefnyddio'r wefan a phori drwy fanylion yr hysbysiad a'u hargraffu. Rhaid bod rhywun wedi cofrestru ar y wefan a chofnodi diddordeb yn yr Hysbysiad perthnasol er mwyn gallu gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Hysbysiad hwnnw. Felly, dylai Prynwyr annog eu Cyflenwyr i gofrestru ar y wefan.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 10 – Beth yw Dyfynbris Cyflym?

Cyfleuster ar-lein i wneud cais am ddyfynbris yw Dyfynbris Cyflym. Caiff ei ddefnyddio i gael dyfynbrisiau am ymarferion caffael gwerth isel/risg isel neu gynnal mini-gystadlaethau o fewn cytundeb fframwaith. Dim ond y cyfrif Cyflenwr unigol a ddewiswyd i roi dyfynbris sy'n gallu gweld manylion y dyfynbris a chyflwyno ymateb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gyflenwr fewngofnodi gan ddefnyddio'r un cyfeiriad ag yr anfonwyd y gwahoddiad iddo; ni fydd manylion cydweithiwr yn gweithio. Ar ôl cofrestru ar GwerthwchiGymru, gall Prynwr wahodd unrhyw Gyflenwr i roi dyfynbris. Er mwyn gwella siawns Cyflenwr o gael ei wahodd i roi dyfynbris, gallwch gwblhau eich proffil 'Canfod Cyflenwr'. Gweler y canllawiau perthnasol i ddefnyddwyr yn: Cymorth ac Adnoddau > Canllawiau i Ddefnyddwyr y System: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 11 – Beth yw'r cyfleuster 'Canfod Cyflenwr'?

Cyfleuster sy'n gweithredu fel cerdyn busnes ar y wefan i Gyflenwyr yw'r proffil Canfod Cyflenwr. Gall Cyflenwyr fewnbynnu manylion eu cwmni gan ddefnyddio'r cyfleuster geiriau allweddol i ddisgrifio eu busnes neu eu gwasanaeth. Gall Prynwyr ddefnyddio'r geiriau allweddol hyn i chwilio am Gyflenwyr sy'n darparu'r gwasanaeth neu'r gwaith y maent yn dymuno gwahodd dyfynbrisiau amdano. I ddefnyddio'r cyfleuster Canfod Cyflenwr, gweler y canllaw 'Canfod Cyflenwr' yn yr adran Cymorth ac Adnoddau: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 12 – Beth yw Codau CPV?

Caiff codau categori Geirfa Gaffael Gyffredin (CPV) eu defnyddio i ddosbarthu Hysbysiadau cyn eu cynnwys yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 13 – Am faint o amser y bydd Cwestiynau ac Atebion i'w gweld?

D.S. dim ond i Hysbysiadau lle mae'r Prynwr wedi actifadu'r cyfleuster Cwestiynau ac Atebion ar adeg eu creu y mae'r ateb hwn yn berthnasol. Gall Prynwyr weld y rhain am gyfnod amhenodol drwy ddilyn y ddolen Cwestiynau ac Atebion yn Rhestr Hysbysiadau Cyhoeddedig y Prynwr, Panel Rheoli'r Prynwr > Hysbysiadau Prynwyr Hysbysiadau Cyhoeddedig. O ran Cyflenwyr, dim ond y rhai sydd wedi cofnodi diddordeb yn yr Hysbysiad sy'n gallu gweld y Cwestiynau ac Atebion. Mae'r Cwestiynau ac Atebion i'w gweld at y tab Cwestiynau ac Atebion ar eich Hysbysiad, os ydynt wedi'u cynnwys.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 14 – Am faint o amser y bydd y wybodaeth am dendrau blaenorol ar gael?

Nid yw Hysbysiadau'n cael eu dileu o'r wefan. Bydd Hysbysiadau bob amser yn weladwy i Gyflenwyr ond, ar ôl cyfnodau penodol, nodir eu bod wedi'u harchifo. Ni fydd dogfennau ar gael i Gyflenwyr newydd ar ôl dyddiad cau Hysbysiad. Os ydych yn chwilio am unrhyw Hysbysiad, gan gynnwys rhai sydd wedi dod i ben neu wedi cael eu harchifo, yn y cyfleuster Porwch y Contractau, ticiwch y blwch wrth ochr 'Cynnwys dogfennau a archifwyd?'. Yn yr un modd, yn Rhestr Hysbysiadau Cyhoeddedig y Prynwr, bydd Hysbysiadau Awdurdodau bob amser wedi'u trefnu yn ôl y dyddiad cyhoeddi, gyda'r dogfennau cysylltiedig ac unrhyw gyflwyniadau Blwch Postio hefyd ar gael. Caiff Hysbysiadau o Gontract eu harchifo 30 diwrnod ar ôl eu dyddiad cau. Nodir bod Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw/Hysbysiadau Tybiannol yn rhai 'Cyfredol' am flwyddyn. Caiff Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract eu harchifo 30 diwrnod ar ôl eu cyhoeddi.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 15 – Sut mae dadgofrestru / cau fy nghyfrif?

Os nad ydych yn dymuno bod wedi'ch cofrestru ar GwerthwchiGymru mwyach, defnyddiwch y cyfleuster 'Cysylltwch â ni' ar frig y dudalen i ofyn i ni gau eich cyfrif.

Nôl i'r brig

Pob Defnyddiwr 16 – Sut mae dad-danysgrifio o'r Cylchlythyrau?

Os nad ydych yn dymuno derbyn Cylchlythyrau gan GwerthwchiGymru mwyach, diweddarwch eich dewisiadau yn yr adran 'Tanysgrifiadau' o dan y pennawd 'Fy Nghyfrif' ar eich panel rheoli (drwy fynd i 'Fy Nghyfrif' ar y bar dewislenni).

Nôl i'r brig

Prynwyr 01 - Fel Prynwr, pa lefelau mynediad sydd eu hangen arnaf?

Caiff lefelau mynediad eu dyrannu i Ddefnyddiwr sy'n Brynwr gan Reolydd(ion) eich Sefydliad Prynu, yn dibynnu ar eich rôl o fewn eich Sefydliad. Cysylltwch â Rheolydd(ion) eich Sefydliad os ydych yn credu nad yw'r lefelau mynediad angenrheidiol gennych. Defnyddiwr sy'n Brynwr: mynediad darllen yn unig i adrannau Prynwyr y wefan. Golygydd: yn gallu creu a golygu hysbysiadau OJEU/hysbysiadau islaw trothwy OJEU (hysbysiadau gwefan) ond mae angen i Gyhoeddwr/Cyhoeddwr OJEU gymeradwyo'r rhain cyn eu cyhoeddi. Cyhoeddwr: yn gallu cyhoeddi hysbysiadau islaw trothwy OJEU (hysbysiadau gwefan). Rheolydd: yn goruchwylio'r broses o weinyddu manylion Prynwr, lefelau mynediad, hysbysiadau a phroffil Prynwr. Cyhoeddwr OJEU: yn gallu cyhoeddi hysbysiadau OJEU. Agorwr Blwch Postio: yn gallu cael ei ddewis i ddatgloi'r blwch postio ar gyfer hysbysiadau OJEU/hysbysiadau islaw trothwy OJEU (hysbysiadau gwefan). Lluniwr Adroddiadau: yn gallu gweld a llunio adroddiadau ystadegol. Golygydd Dyfynbrisiau Cyflym: yn gallu creu a golygu Dyfynbrisiau Cyflym ond mae angen i Gyhoeddwr Dyfynbrisiau Cyflym gymeradwyo'r rhain cyn eu dosbarthu. Cyhoeddwr Dyfynbrisiau Cyflym: yn gallu cyhoeddi Dyfynbrisiau Cyflym.

Nôl i'r brig

Prynwyr 02 – Sut y gall Prynwr ddechrau defnyddio'r wefan?

Cliciwch ar 'Cofrestru am ddim' ar frig y dudalen, wedyn dewiswch 'Cofrestrwch fel Prynwr' a dewch o hyd i'ch sefydliad gan ddefnyddio'r blwch 'Chwilio am awdurdod sy'n bodoli eisoes'. Os byddwch yn llwyddo i ddod o hyd i'ch Sefydliad Prynu, cliciwch ar ei enw a llenwch y ffurflen ar y dudalen ganlynol. Anfonir neges e-bost at Reolyddion eich Sefydliad Prynu er mwyn iddynt allu rhoi mynediad i chi. Os na allwch ddod o hyd i'ch Sefydliad Prynu, defnyddiwch y blwch 'Nodi awdurdod newydd' i gofrestru Sefydliad Prynu newydd. Ar y dudalen ganlynol, llenwch y ffurflen a chlicio ar 'Cyflwyno'. Anfonir neges e-bost i'r Ddesg Gymorth er mwyn dechrau'r broses o greu Sefydliad Prynu newydd ar y wefan.

Nôl i'r brig

Prynwyr 03 – Pryd y bydd fy Hysbysiad yn ymddangos ar y wefan / yn OJEU?

Bydd pob Hysbysiad a gyflwynir drwy GwerthwchiGymru cyn 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn cael ei brosesu ar yr un diwrnod oni bai bod angen i'r Prynwr egluro neu newid unrhyw beth. Ar ôl i dîm cymorth y wefan adolygu eich Hysbysiad, caiff ei anfon i'w gyhoeddi. Bydd Hysbysiadau Gwefan yn ymddangos ar y wefan yn uniongyrchol. Sylwer na fydd Hysbysiadau OJEU yn cael eu cyhoeddi'n genedlaethol am 48 awr, yn unol â gofynion OJEU (ni fydd hyn yn effeithio ar eich terfynau amser). Dylai Hysbysiadau OJEU gael eu cyhoeddi yn OJEU o fewn 5 diwrnod gwaith i gael eu hanfon. Pan gaiff eich Hysbysiad OJEU ei gyhoeddi, byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost sy'n cynnwys rhif cyfeirnod OJEU.

Nôl i'r brig

Prynwyr 04 – A oes cyfyngiadau ar faint y dogfennau y gellir eu hatodi i Hysbysiad?

Yr uchafswm maint cyffredinol yw 100MB fesul Hysbysiad, a'r uchafswm maint ar gyfer ffeiliau unigol yw 100MB hefyd. D.S. Yr uchafswm maint ar gyfer ymatebion Cyflenwyr yw cyfanswm o 30MB a 10MB fesul ffeil. Gall Cyflenwyr gyflwyno mwy nag un ymateb, ar yr amod bod hynny cyn y dyddiad cau, ond cofiwch hyn wrth greu dogfennau rydych yn dymuno iddynt eu defnyddio wrth ymateb.

Nôl i'r brig

Prynwyr 05 – A oes angen i mi anfon fy Hysbysiad ymlaen i OJEU?

Nac oes. Pan fydd Prynwr yn creu Hysbysiad, gofynnir iddo ddewis p'un a yw'n Hysbysiad Gwefan (islaw'r trothwy) neu'n Hysbysiad OJEU. Caiff pob Hysbysiad OJEU ei anfon ymlaen i'r Cyfnodolyn Swyddogol yn awtomatig ac yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hefyd.

Nôl i'r brig

Prynwyr 06 – A oes modd lawrlwytho cofnod Cwestiynau ac Atebion Hysbysiad?

Oes. Wrth edrych ar Hysbysiad, byddai'r Prynwr yn dewis 'Gweld Cwestiynau ac Atebion'. Ceir opsiwn i 'Lawrlwytho' Cwestiynau ac Atebion, os yw hynny'n berthnasol.

Nôl i'r brig

Prynwyr 07 – Ble y bydd fy Hysbysiadau i'w gweld?

Bydd yr holl Hysbysiadau OJEU a Hysbysiadau Gwefan (islaw trothwy OJEU) yn ymddangos ar Banel Rheoli'r Sefydliad Prynu a gellir hefyd ddod o hyd iddynt drwy ddefnyddio'r cyfleuster ‘Porwch y Contractau’. Os byddwch yn cyflwyno ffurflen OJEU, bydd yr Hysbysiad hefyd yn cael ei anfon ymlaen i Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd i'w gyhoeddi. Mae gwefan GwerthwchiGymru yn agored i bawb, sy'n golygu bod modd i unigolion bori drwy'r Hysbysiadau heb fod angen cofrestru. Fodd bynnag, er mwyn i Gyflenwr allu mynegi diddordeb mewn cyfle, rhaid iddynt gofrestru ar y wefan yn gyntaf.

Nôl i'r brig

Prynwyr 08 – Sut mae sefydlu Asiant?

Rhaid i Reolydd wneud hyn. O Banel Rheoli'r Prynwr, dewiswch 'Asiantiaid' (mewn rhestr yn adran Sefydliad y panel rheoli). Os nad oes gan eich sefydliad Reolydd, neu os hoffech i dîm cymorth y wefan sefydlu cwmni neu sefydliad fel asiant ar eich rhan, cysylltwch â'r ddesg gymorth

Nôl i'r brig

Prynwyr 09 – A allaf ychwanegu rhagor o Gyflenwyr at Ddyfynbris Cyflym ar ôl iddo gael ei gyflwyno?

Gallwch. Gweler y “Canllaw i Brynwyr – Dyfynbris Cyflym” yn adran gymorth Panel Rheoli'r Prynwr: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Nôl i'r brig

Prynwyr 10 – A allaf gyflwyno Dyfynbris Cyflym i Gyflenwr nad yw wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru?

Na allwch. Rhaid i Gyflenwyr fod wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru er mwyn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Dyfynbris Cyflym. Dylai Prynwyr sicrhau bod yr holl Gyflenwyr y maent yn gwneud busnes rheolaidd gyda nhw wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru.

Nôl i'r brig

Prynwyr 11 – Beth os na allaf ddod o hyd i Gyflenwr?

Os ydych wedi cael gwybod bod Cyflenwr ar y wefan, chwiliwch yn y ffordd ganlynol: - os ydych yn defnyddio'r opsiynau 'Chwilio am Gyflenwr', defnyddiwch yr opsiwn 'Chwilio yn ôl Manylion'. Diwygiwch y meini prawf fel y bo'n briodol. - Ar y cam dosbarthu, defnyddiwch y tab 'Cyflenwyr sy'n Cyfateb', ticiwch 'Hepgor Categorïau Nwyddau', a chwiliwch am enw'r cwmni. Bydd hyn yn cynnwys yr holl Gyflenwyr ar y wefan wrth chwilio. Er ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i Gyflenwyr yn seiliedig ar eu geiriau allweddol a'u gwasanaethau, mae'n well peidio â defnyddio'r chwiliad Canfod Cyflenwr ar y cam hwn. Os byddwch yn parhau i gael anhawster dod o hyd i Gyflenwr, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth.

Nôl i'r brig

Prynwyr 12 – Sut mae dyfarnu Hysbysiad?

Os cafodd Hysbysiad o Gontract ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, defnyddiwch yr opsiwn 'Dyfarnu' ar eich Hysbysiad o Gontract. Bydd hyn yn llenwi'r Hysbysiad o Ddyfarnu Contract â manylion perthnasol o'r Hysbysiad o Gontract. Darllenwch dros yr Hysbysiad yn ofalus i sicrhau ei fod yn gywir ac yna ychwanegwch y wybodaeth am y Cyflenwr/Cyflenwyr sydd wedi ennill y contract cyn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Mae'n hanfodol eich bod yn gwneud hyn er mwyn ffurfio cyswllt rhwng yr Hysbysiad o Gontract a'r Hysbysiad o Ddyfarnu Contract gan mai hyn sy'n pennu'r rhestr o Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract sy'n weddill y mae eich sefydliad yn gyfrifol amdanynt. Os na wnewch hyn, byddwch yn cael negeseuon yn gofyn i chi greu Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract. Os na chafodd eich Hysbysiad o Gontract ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, bydd angen i chi greu Hysbysiad o Ddyfarnu Contract newydd drwy'r opsiwn Creu Hysbysiad ym Mhanel Rheoli'r Prynwr. Bydd angen i chi lenwi pob maes yn ôl yr arfer.

Nôl i'r brig

Prynwyr 13 – A oes angen i mi gynnwys gwerth y contract mewn Hysbysiadau o Gontract?

Yn Hysbysiadau'r Cyfnodolyn Swyddogol (OJEU), mae'r maes hwn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau'r UE. Ystyrir bod y wybodaeth hon o ddiddordeb rhesymol i'r cyhoedd o ystyried bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r tendr. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog yn gallu casglu ystadegau ar lefel gwariant cyllid cyhoeddus yn well o lawer os bydd y symiau wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract. Er nad yw Hysbysiadau islaw'r trothwy yn ddarostyngedig i reoliadau'r UE, mae egwyddorion cyhoeddi Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract gyda'r symiau wedi'u cofnodi ynddynt yr un mor ddilys.

Nôl i'r brig

Prynwyr 14 – A oes modd canslo Dyfarniad o Gontract?

Oes. Gellir gwneud hyn ar eich Hysbysiad o Ddyfarnu Contract – NID eich Hysbysiad o Gontract – gan ddefnyddio'r opsiwn 'Canslo', wrth ymyl y man lle rhoddir manylion dyddiad cau'r Hysbysiad fel arfer. Awgrymir na ddylid cyflwyno Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract nes bod contract wedi cael ei lofnodi.

Nôl i'r brig

Prynwyr 15 – Gyda phwy y dylwn gysylltu os nad oes gan ein Sefydliad Reolydd?

Os nad oes gan eich Sefydliad Prynu Reolydd, neu os hoffech i dîm cymorth y wefan sefydlu cwmni neu sefydliad fel asiant ar eich rhan, cysylltwch â'r ddesg gymorth.

Nôl i'r brig

Prynwyr 16 – Sut mae chwilio am restr o Gyflenwyr gan ddefnyddio'r Codau CPV?

Gallwch chwilio am Gyflenwyr gan ddefnyddio'r Codau CPV y maent wedi'u dewis yn eu proffil Rhybuddion. I wneud hyn, cliciwch ar 'Prynwyr' o'r bar dewislenni, wedyn 'Chwilio yn ôl Categori' yn y blwch 'Chwilio am Gyflenwr', ac yna ewch drwy'r Categorïau ar gyfer eich Cod. Wedyn, byddwch yn gweld rhestr o Gyflenwyr sydd wedi nodi'r Categorïau hynny. Gallech hefyd wneud hyn drwy ychwanegu'r Cod CPV ar ddiwedd y ddolen hon: http://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/Authority/SupplierSearch/CategorySearch_Results.aspx?id= Er enghraifft: Cod CPV = 03140000 http://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/Authority/SupplierSearch/CategorySearch_Results.aspx?id=03140000

Nôl i'r brig