Esbonio'r eiconau.
Caiff eiconau eu harddangos wrth ochr hysbysiadau yn dibynnu ar y math o hysbysiad sy'n cael ei hysbysebu:
Mathau o Hysbysiadau
Mae'n cynrychioli hysbysiad gwerth is, islaw trothwyon yr UE.
Mae'n cynrychioli hysbysiad cam 2.
Mae'n cynrychioli hysbysiad o is-gontract a gyhoeddwyd gan sefydliad preifat.
Mae'n cynrychioli hysbysiad sy'n addas ar gyfer ceisiadau consortia.
Opsiynau Ychwanegol
Defnyddir yr eiconau canlynol i gynrychioli opsiynau a ddewiswyd gan y prynwr ar gyfer pob math o hysbysiad. DIM OND
os yw'r prynwr wedi
dewis defnyddio cyfleusterau penodol sydd ar gael ar y wefan y bydd yr eiconau hyn yn ymddangos wrth ochr hysbysiad.
Mae'r clip papur yn dangos bod dogfennau ychwanegol wedi'u hatodi i hysbysiad a'u bod ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan.
Mae'r allwedd yn dangos bod y prynwr wedi gofyn am i ymatebion i dendr gael eu cyflwyno drwy'r blwch postio cyflwyno tendrau. Mae'r cyfleuster hwn yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer ymatebion drwy gyfrwng blwch postio wedi'i gloi.
Mae'r eicon hwn yn dangos bod yr awdurdod yn defnyddio Modiwl y Tendr i gynnal y broses gaffael hon. I gael gafael ar Fodiwl y Tendr a ofnodi eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn, ewch i https://etenderwales.bravosolution.co.uk/cym/login.shtml
.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Modiwl y Tendr, bydd angen i chi wneud hynny.
Yn cynrychioli hysbysiad Dyfynbris Cyflym.
Mae'r arwydd Ewro yn dynodi bod yr hysbysiad yn ymwneud â phrosiect/rhaglen a ariennir gan Gronfeydd Cymunedol yr UE.
Mae trosolwg o'r swyddogaethau penodol ar gael yn
Canllawiau i Ddefnyddwyr y Wefan
.