Mae'r gwaith o gynhyrchu pŵer niwclear
yn y DU dros y 60 mlynedd ddiweddaf wedi gadael gwaddol o safleoedd segur y
bydd angen eu rheoli am ddegawdau. Mae'r heriau yn niferus, ond mae rhaglen ddatgomisiynu
hirdymor yn gyfle arwyddocaol i sicrhau twf a chyflogaeth barhaus ar draws y
gadwyn gyflenwi.
Mae'r gwaith o gynhyrchu pŵer niwclear
yn y DU dros y 60 mlynedd ddiweddaf wedi gadael gwaddol o safleoedd segur y
bydd angen eu rheoli am ddegawdau. Mae'r heriau yn niferus, ond mae rhaglen ddatgomisiynu
hirdymor yn gyfle arwyddocaol i sicrhau twf a chyflogaeth barhaus ar draws y
gadwyn gyflenwi.
Ar ôl darparu ynni carbon isel
am ddegawdau, mae'r holl adweithyddion sydd gan Magnox yn y DU bellach yn cael
eu dat-danwyddo neu eu datgomisiynu cyn cael eu tynnu'n ddarnau yn y pen draw. Gweler
-https://www.gov.uk/government/organisations/magnox-ltd. Mae sawl cyfleuster ymchwil niwclear a phwerdy
tanwydd hefyd wedi cyrraedd diwedd eu hoes, ac mae yna ddegawdau o weddillion
tanwydd a deunydd gwastraff y bydd angen eu storio neu eu gwaredu'n ddiogel
mewn cyfleuster gwaredu daearegol. Yn ôl adroddiad diweddaraf y Swyddfa
Archwilio Genedlaethol yn 2018, amcangyfrifir y bydd y gwaith datgomisiynu yn y
DU yn unig yn costio rhyw £120 biliwn dros y 100 mlynedd nesaf tra bo'r Adran
Masnach Ryngwladol yn amcangyfrif y bydd y farchnad ddatgomisiynu ryngwladol
ledled Ewrop a'r Dwyrain Pell werth rhyw £250 biliwn rhwng nawr a 2030.
Sefydlwyd yr
Awdurdod Datgomisiynu Niwclear yn 2014 yn gorff anadrannol o'r llywodraeth a’r
Awdurdod hwn sy’n gyfrifol am y rhaglen. Gweler -https://www.gov.uk/government/organisations/nuclear-decommissioning-authority Mae'r Awdurdod yn berchen ar 19 o safleoedd
ledled y DU a reolwyd yn flaenorol gan Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig
(UKAEA, sydd bellach yn rhan o BEIS) a'r British Nuclear Fuels Ltd (BNFL) sydd
wedi dod i ben. Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys adweithyddion niwclear sifil
gweithredol ac anweithredol, pwerdai prosesu tanwydd, safleoedd storio a hen
gyfleusterau ymchwil. Mae'r pwerdai sy'n cael eu datgomisiynu ar hyn o bryd yn
cynnwys safleoedd a reolir gan Magnox yn Berkeley, Bradwell, Chaplecross,
Dungeness A, Harwell, Pwynt Hinkley A, Hunterston, Oldbury, Sizewell A,
Trawsfynydd, Winfrith, Wylfa yn ogystal â safleoedd Sellafield a Dounreay yn
Cumbria a Gogledd-ddwyrain yr Alban.
Mae gweithgynhyrchwyr a'r gadwyn
gyflenwi ehangach yn chwarae rôl allweddol yn hynny o beth, gan ddarparu'r
arloesedd, y dechnoleg a'r offer i ddod o hyd i ffyrdd diogel o dynnu'r
safleoedd yn ddarnau, ymdrin â deunydd halogedig a storio deunydd yn yr
hirdymor. Mae'r rhaglen ddatgomisiynu hefyd wedi darparu cyfleoedd i arloesi a
dysgu drwy rannu arferion da. Mae'r broses ddatgomisiynu sy'n mynd rhagddi yn
Nhrawsfynydd, er enghraifft, wedi mabwysiadu egwyddorion 'arwain a dysgu',
gyda'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu gyda phwerdai eraill sy'n cael eu
datgomisiynu ledled y DU.
Mae'r
rhaglen yn gofyn inni fod arloesol ac mae’n creu heriau newydd ar gyfer y
gadwyn gyflenwi. Drwy reoli'r heriau hyn yn llwyddiannus, gall y DU fod yn
flaenllaw yn y farchnad ddatgomisiynu, gyda photensial mawr i allforio
cynhyrchion a gwasanaethau, a gall llawer o gwmnïau eraill yng nghadwyn
gyflenwi Cymru elwa ar gryn dipyn o waith yn sgil hynny. Bydd cwmnïau sy'n rhan
o'r gadwyn gyflenwi datgomisiynu hefyd yn gallu chwarae rhan yn y rhaglen
adeiladu newydd, ac i'r gwrthwyneb. Mae'r meysydd allweddol lle y gellir rhannu
arbenigedd yn cynnwys cydrannau mecanyddol a ffabrigiadau ar draws pob lefel ansawdd.