Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Rhaglen Fit for Nuclear

Mae F4N yn helpu gweithgynhyrchwyr i asesu a datblygu'u parodrwydd i wneud cais i adeiladu, rhedeg a datgomisiynu gweithfeydd niwclear.  Mae'n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Niwclear Uwch (Nuclear AMRC), rhan o’r High Value Manufacturing Catapult y DU.

Mae'n mesur galluoedd gweithgynhyrchwyr yn ôl y safonau sy'n ofynnol ar gyfer cyflenwi'r diwydiant niwclear ac, yna'n dangos y camau sydd eu hangen, i gau unrhyw fylchau - gan sbarduno gwelliannau, hyn oll gyda chymorth arbenigwyr Nuclear AMRC a chynghorwyr y diwydiant.

Mae F4N wedi cael ei ddatblygu gan Nuclear AMRC gyda chymorth ei brif bartneriaid, gan gynnwys gwerthwyr adweithyddion, datblygwyr adeiladau niwclear newydd a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Mae arweinwyr hyn y diwydiant yn defnyddio F4N i gael hyd i gwmnïau all ymuno â'u cadwyni cyflenwi nhw.

Mae rhaglen gwella busnesau F4N yn broses sy'n cymryd 12 - 18 mis ac, mae'n gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad gan y tîm rheoli busnesau.

Cafodd rhaglen F4N ei datblygu'n wreiddiol ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu yn y maes peirianneg fecanyddol fanwl-gywir ond, ers hynny, mae wedi ehangu i helpu cwmnïau sy'n cyflenwi offer trydanol a rheoli a chydrannau eraill ar gyfer adeiladu a rhedeg adweithyddion niwclear ac, ar gyfer gofynion arbennig y gwaith datgomisiynu. Mae’r cwmnïau sy'n cymryd rhan, yn amrywio o weithgynhyrchwyr heb unrhyw brofiad niwclear, sydd yn edrych at gymryd eu camau cyntaf o fewn y sector, i gyflenwyr sefydledig, sydd am feincnodi eu sefyllfa presennol ac ennyn rhagoriaeth busnes.

Pwysig: Mae F4N ar gyfer busnesau sy'n cyflogi 10 neu fwy o bobl ac sydd â throsiant o £1.6 miliwn neu fwy, gan ei bod hi'n anodd cymhwyso egwyddorion y rhaglen i ficrofusnesau. Fodd bynnag, dylai microfusnesau gyda'r potensial i gynnig cynnyrch neu wasanaeth arbenigol i'r sector niwclear sifil, gysylltu i drafod sut y gall F4N eu helpu.

Am ragor o fanylion gweler http://namrc.co.uk/services/f4n/

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.