Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf

Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yw'r orsaf bŵer niwclear gyntaf i gael ei hadeiladu yn y DU ers dros 20 mlynedd, a bydd yn darparu trydan carbon isel ar gyfer rhyw 6 miliwn o gartrefi. Bydd y £19.6 biliwn a fuddsoddwyd yn Hinkley Point C yn creu cyfleoedd cyffrous i fusnesau − yn ystod y cyfnod adeiladu ei hun a phan fydd yr orsaf ar waith. Disgwylir y bydd modd gwario rhyw 64% o gostau adeiladu Hinkley Point C yn y DU.

Disgwylir i'r prosiect greu 25,000 o gyfleoedd cyflogaeth a hyd at 1,000 o brentisiaethau. Mae dros 3,100 o weithwyr ar y safle, ac mae 1,000 ohonynt yn dod o Gymru.

Mae modd teithio o Dde-ddwyrain Cymru i'r safle ymhen 90 munud, mae cysylltiadau ffordd da o Dde-orllewin Cymru a gellir teithio ar y môr o wahanol borthladdoedd yn Ne Cymru. Mae holl ardal De Cymru yn yr ardal ranbarthol a bennwyd ar gyfer meithrin cysylltiadau â chyflenwyr.

Mae EDF yn awyddus i weithio gyda chwmnïau yn y DU; mae nifer mawr ohonynt yn gweithio ar Hinkley Point C eisoes, neu maen nhw'n gynigwyr a ffefrir ar ei gyfer. Mae rhai cwmnïau wedi dod ynghyd i greu mentrau ar y cyd i weithio ar y prosiect.  Hyd yn hyn, mae dros 4,000 o fusnesau lleol wedi cofrestru i ddangos bod ganddynt ddiddordeb, a llofnodwyd contractau rhanbarthol sydd, gyda'i gilydd, yn werth £1.3 biliwn*. 

Gall gweithio yn HPC helpu'ch busnesu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad yn y sector niwclear a gall gynnig ffordd i mewn i farchnad ryngwladol a allai fod yn anferth wrth i'r galw am ynni barhau i dyfu ledled y byd.

Manylion Cyswllt - Mae Hinkley Point C yn brosiect cymhleth sydd wedi cael ei rannu'n gannoedd o becynnau gwaith gwahanol sy'n amrywio o'r prif waith cloddio i'r falfiau yn yr adweithydd ei hun. Aed ati i symleiddio'r manylion ac maen nhw ar gael bellach ar ffurf offeryn rhyngweithiol a fydd yn caniatáu i gyflenwyr nodi'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, ac a fydd ar gael yn y dyfodol, ar draws y gadwyn gyflenwi.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld y dudalen pecynnau gwaith a'r rhestr o gontractau sydd ar gael.

https://www.edfenergy.com/energy/nuclear-new-build-projects/hinkley-point-c/for-suppliers-and-local-businesses/work-packages

Dylai busnesau yng Ngwlad yr Haf ac yn Ne Cymru, gofrestru i ddangos bod ganddynt ddiddordeb.

Gweler www.hinkleysupplychain.co.uk

 

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.