Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Uwch Dechnolegau Niwclear

Yn ogystal ag adeiladu o'r newydd adweithyddion mawr a thraddodiadol, mae cryn ddiddordeb ar draws y byd yn y posibiliadau sydd ynghlwm wrth uwch dechnolegau niwclear. Caiff y rhain eu rhannu'n aml yn ddau grŵp :-

i) Adweithyddion modiwlaidd bach (SMR) sy'n debyg i adweithyddion gorsafoedd niwclear presennol ond ar raddfa lai.

ii) Uwch adweithyddion modiwlaidd (AMR) sy'n cynnig tanwyddau neu systemau oeri newydd a all gynnig posibiliadau newydd ac o bosibl newid sylweddol o ran costau adeiladu a gweithredu.

Mae dewis helaeth iawn o adweithyddion yn cael eu hyrwyddo gan werthwyr - gydag allbynnau sy'n amrywio o 4 i 400KW, gwahanol danwyddau ac oeryddion amrywiol (ee halen toddedig, sodiwm hylifol) yn ogystal â chysyniadau ar gyfer adweithyddion toddi.

O fewn Cymru mae llawer o gyfleoedd sylweddol ym maes datblygu economaidd ar gyfer Uwch Dechnolegau Niwclear os gallwn sicrhau ymchwil a datblygu a hefyd adleoli o fath newydd.

Mae adweithyddion bach yn cynnig sawl mantais o'u cymharu ag adweithyddion mwy, ac mae modd cynhyrchu unedau lluosog mewn ffatrioedd. Golyga hyn fod modd gwella eu safon a manteisio ar arbedion o ran costau. Yn aml cyllid yw'r agwedd fwyaf heriol ar niwclear newydd, ond gall adeiladu nifer o unedau bach ar un safle leihau'r gost ymlaen llaw a hefyd y risg.

Mae marchnad sylweddol ar gyfer adweithyddion ar raddfa lai o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Ar lefel ranbarthol, gallai fod marchnad o fewn y DU ar gyfer tua 7GW o bŵer o adweithyddion bach erbyn 2035, ar sail y galw am gynhyrchu ynni carbon isel ac o ystyried y safleoedd sydd ar gael. Mae Rolls Royce yn rhagweld marchnad byd eang posibl o 85GW i adweithyddion bach (sy'n cyfateb i 193 o'u gorsafoedd sy'n cynnwys adweithyddion llai), a byddai'r prif farchnadoedd yn Tsieina, y Dwyrain Canol, yr Unol Daleithiau a Rwsia. Mae gwerthwr arall, NuScale, yn amcangyfrif bod y farchnad byd eang ar gyfer adweithyddion bach werth oddeutu £400 biliwn erbyn 2035.

Rydym wedi bod yn cefnogi Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Eryri o ran chwilio am gyfleoedd i leoli uwch dechnoleg niwclear yn Nhrawsfynydd. Mae cryn waith wedi'i wneud dros y 4 blynedd diwethaf er mwyn lleihau unrhyw risg o ran y safle (ee o ran capasiti oeri Llyn Trawsfynydd a throsglwyddo llwythi anweledig mawr o'r arfordir i'r safle).

O ran cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi, yn y dyfodol gallai uwch dechnolegau greu nifer uchel o swydd. Eto i gyd, gallai gwaith ymchwil a datblygu a gwaith datblygu cyn adleoli greu cyfleoedd gwaith yn y tymor canol.

Mae datblygu technoleg adweithyddion bach yn agenda hirdymor ond mae safle Trawsfynydd bellach yn cael ei gydnabod fel y safle arweiniol ar adleoli uwch dechnoleg o'r newydd/technoleg adweithyddion bach o fewn y DU. Os caiff hyn ei gyflawni byddai'r cyfleoedd yn yr hirdymor i'r gadwyn gyflenwi ac i economi'r Gogledd yn rhai sylweddol.

 

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.