Fforwm Niwclear Cymru
Dechreuodd Fforwn Niwclear Cymru yn 2016, pan wahoddwyd
grŵp bach o fusnesau o Gymru, i gytuno i'r egwyddor o gydweithio. Mae'r syniad
wedi datblygu'n sefydliad ar gyfer aelodau sy'n cael ei arwain gan y sector
preifat. Mae'n trefnu digwyddiadau rheolaidd i ddod ag aelodau a siaradwyr
uchel eu parch yn y diwydiant at ei gilydd.
Mae pob digwyddiad
yn cynnig :-
-Cyfle i'r aelodau roi cyflwyniad cyffredinol i'r gynulleidfa am eu cwmni a'r hyn y gallant ei gynnig.
-Llwyfan i gyflenwyr allweddol ac i arweinwyr prosiectau, ddisgrifio cyfleoedd cyflenwi.
-Cyfleusterau rhwydweithio, lle gall yr aelodau rannu eu gwybodaeth am y farchnad ac, am gyfleoedd ychwanegol sydd ar gael.
-Cyfle i drafod gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau pwysig eraill, sy'n cynnig cymorth i fusnesau.
Mae Fforwm
Niwclear Cymru, yn cael ei gydnabod fel llais y sector niwclear yng Nghymru a,
mae’n ffordd wych, o arddangos y capasiti a'r gallu sydd gan fusnesau
Cymru. Mae Fforwm Niwclear Cymru yn mynd
i ddigwyddiadau ar draws y DU a thramor, i hyrwyddo cwmnïau sy'n aelodau
ohono.
Gweler www.walesnuclearforum.com am ragor o wybodaeth
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau.
.
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.
|