Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £ 1.3bn mewn 11 prosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe - sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Ariennir y Fargen Ddinesig, yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes prosiect, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £ 1.8bn i'r economi ranbarthol ac yn cynhyrchu bron i 10,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel.

Mae prosiectau'r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol Cyflymu Economaidd, Gwyddor Bywyd a Lles, Ynni a Gweithgynhyrchu Clyfar. Bydd pob prosiect yn cael ei gefnogi gan seilwaith digidol o'r radd flaenaf a menter Sgiliau a Thalent a fydd yn rhoi llwybr i bobl leol gael mynediad i'r swyddi a gaiff eu creu Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei arwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol - Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat. Mae cyfanswm y pecyn buddsoddi yn cynnwys £ 241 miliwn o gyllid gan y DU a Llywodraeth Cymru, £ 396 miliwn o fuddsoddiad arall yn y sector cyhoeddus, a £ 637 miliwn o'r sector preifat

Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau. .

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.