SEWSCAP
Croeso i SEWSCAP – Cydweithrediaeth Peirianneg Sifil ac Adeiladu Priffyrdd De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Ar ôl ei lwyddiant fel fframwaith adeiladu cydweithredol, hwn yw trydydd fersiwn y fframwaith sifil a phriffyrdd yng Nghymru.
Mae SEWH yn dwyn ynghyd arbenigedd contractwyr bychan, canolig a mawr profiadol sydd wedi cymhwyso ymlaen llaw ar waith adeiladu priffyrdd a pheirianneg sifil amrywiol, gan gynnwys cynnal a chadw, ailwynebu a gwaith project.
Ei nod yw cyflawni trefniadau gwerth gorau i dde-ddwyrain a chanolbarth Cymru drwy gaffael cystadleuol, wrth arwain ar adfywio, gwelliant parhaus ac arfer gorau.
Anogir cyflenwyr i gydweithio mewn diwylliant cydweithredol o amcanion, prosesau a dulliau a rennir, fydd yn sylweddol yn lleihau’r costau a’r gwaith papur oedd yn arfer bod ynghlwm wrth dendro; ac yn arwain at rannu incwm mewn modd tecach rhwng cyflenwyr bach a mawr.
Mae’r fframwaith ar agor i 10 awdurdod lleol, cyrff addysg uwch, colegau addysg bellach, byrddau iechyd a chymdeithasau tai yn Ne Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn arfer cynnal y fframwaith, ac mae bellach wedi’i drosglwyddo i Gyngor Dinas Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gaffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, a disgwylir y bydd prynwyr a chyflenwyr ar y fframwaith yn cyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy:
Manteision
Y tîm fframwaith
Rhestr o Brynwyr
Rhestr o Gyflenwyr
Lotiau
Adnoddau
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau.
.
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gofnodion sy'n cyfateb i'r categori hwn.
|