Band Eang Cymru
Cyflymu Cymru, cynllun Band Eang y Genhedlaeth Nesaf Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu contract i BT a fydd yn trawsffurfio tirwedd band eang Cymru. Nod y prosiect, sef Cyflymu Cymru, ydy cyrraedd 96% o gartrefi a busnesau Cymru, gan alluogi cyflymder band eang o hyd at 80Mbps yn nyfnderoedd cefn gwlad Cymru. Mae’r gwaith eisoes yn mynd rhagddo, a bydd yn parhau am dair blynedd bellach.
Mae Cyflymu Cymru’n adeiladu ar y band eang masnachol sydd eisoes ar gael yng Nghymru ac yn dod â chyfanswm y gwariant ar band eang ffeibr yng Nghymru i tua £425 miliwn. Bydd y prosiect yn golygu defnyddio tua 17,500 cilomedr o gêbl ffibr optig ac mae 3,000 o gypyrddau band eang ffeibr yn cael eu gosod ar hyd a lled y wlad.
Mae disgwyl y gallai’r dechnoleg fod werth cannoedd o filiynau o bunnoedd i Gymru. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd, gwelwyd fod BT wedi gwario £217 miliwn gyda chyflenwyr y genedl a bu’n gyfrifol am dros 9,000 swyddi Cymru. Caiff cyfleoedd is-gontractau eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru i fusnesau Cymru fedru bidio amdanynt.
Am fanylion yr eiconau a ddefnyddiwyd, gweler Esbonio'r Eiconau.
.