Mae gwerthwchigymru.llyw.cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis nad ydynt yn hanfodol i'n helpu i wella gwasanaethau digidol y Llywodraeth. Mae unrhyw ddata a gesglir yn ddienw. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis

Derbyn ein defnydd o gwcis Gosodiadau cwcis

Hafan Astudiaethau Achos

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn dangos cwmnïau gwahanol fel eich un chi sydd wedi defnyddio'r wefan i ddod o hyd i gyfleoedd busnes a'u troi'n werthiannau llwyddiannus.

Pori Astudiaethau Achos yn ôl Cwmni

CwmniManylion

Arcswood CIC

Menter gymdeithasol yw Arcswood sy’n cynnig gwasanaethau cynnal tiroedd a choetiroedd, gwaith coed a hyfforddiant. Mae wedi’i lleoli yn y Ganolfan Hyfforddi Sgiliau Gwledig, Sir Benfro.

OCON fire and security Ltd

Sefydlwyd OCON 9 mlynedd yn ôl gan Andrew Davies. Mae Andrew wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant tân a diogelwch ers dros 20 mlynedd ac wedi gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y busnes. Heddiw, rydym yn cyflogi 27 o staff mewn 2 swyddfa; mae ein swyddfa yn y canolbarth yn arbenigo mewn systemau tân a diogelwch masnachol a domestig ac mae yno adran arbenigol mewn olew a nwy morol. Mae ein depo...

Annex Group & We Are Promotional Products.

Cwmni argraffu ydym sydd wedi ein lleoli yn y Trallwng, yn y Canolbarth. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi amrywiaeth o gyfryngau

Village Websmith in Tintern

Mae'r Village Websmith yn helpu busnesau bach i hyrwyddo eu hunain, ar y rhyngrwyd yn bennaf, ond hefyd drwy ddeunydd printiedig, gan eu helpu gydag ymgyrchoedd gwerthu a threfnu grwpiau rhwydweithio busnes. Yr hyn sy'n wahanol yw ein defnydd o iaith a delweddau sy'n gwerthu, yna gosod gwybodaeth lle y bydd yn cael ei gweld a deall marchnadoedd a chwilotwyr.

Kelray Building Maintenance Ltd

Cwmni o Ferthyr Tudful yw Kelray Building Maintenance Ltd sy’n cynnig gwasanaethau adeiladu ar draws Cymru a de-orllewin Lloegr.

P K Safety & Sell2Wales

Mae P K Safety yn fusnes sy'n ailwerthu cyfarpar diogelwch. Gall darparu amrywiaeth eang o nwyddau o gyfarpar amddiffyn personol i ddillad a nwyddau glanhau i Wisgoedd Corfforaethol.

Purple and Green

Rydym yn asiantaeth ddylunio ac ysgrifennu copi ar y we / print a leolir ger y Fenni ac rydym yn gwneud pethau ychydig bach yn wahanol – rydym yn dîm o wr a gwraig sy'n newyddiadurwyr profiadol ac rydym yn dylunio deunyddiau marchnata o amgylch y cynnwys yn gyntaf (daw'r dyluniad prydferth yn dilyn hynny!).

Jackson Fire and Security Ltd

Jackson Fire and Security Ltd wedi eu lleoli yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint ac wedi bod yn defnyddio Sell2wales ers ei sefydlu. Fel darparwr cyfanswm datrysiadau tân a diogelwch ar gyfer y sector preifat, y busnes bob amser wedi bod â diddordeb mewn chwilio am gyfleoedd yn y farchnad sector cyhoeddus ond yn hanesyddol rydym yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyfleoedd cyn i Sell2wales dod yn ei flaen

Astudiaeth Achos - Read Construction Holdings Ltd

Mae Read Construction Holdings Ltd (Read), BBaCh sydd wedi'i leoli ym Mrymbo, Wrecsam, yn brif gontractwr adeiladu sy'n gweithio ledled Gogledd Cymru.

20 Degrees Consulting Ltd

Mae 20 Degrees yn cynorthwyo pobl a'u sefydliadau drwy gyfnodau o newid. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid i'w helpu i wireddu manteision newid a fwriedir a rheoli canlyniadau newid anfwriadol.

G2G Communities CIC

Mae G2G Communities yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid er elw, gyda'r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi mewn cyflwyno prosiectau cymunedol, hyfforddiant a chymorth. Ystyr G2G yw ‘Da i Wych’ (‘Good to Great’) ac rydym yn ceisio adeiladu ar yr hyn y mae unigolion, busnes a diwydiant yn cyflawni ar hyn o bryd a mynd â nhw i'r lefel nesaf. Rydym yn arbenigo mewn prosiectau hyfforddi, addysg a chymorth ...

Ontrac Agency Ltd

Mae Ontrac, sydd wedi'i lleoli yn y Drenewydd, yn asiantaeth dylunio marchnata creadigol. Mae'r busnes, a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl, yn cynnig amrywiaeth o ddisgyblaethau marchnata yn cynnwys dylunio, gwaith celf, gwefannau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Ultima Cleaning Ltd

Fy musnes i yw Ultima Cleaning Ltd. Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli yn Aberteifi, wedi bod yn masnachu ers 2000. Rydym yn cynnig gwasanaeth glanhau ledled gorllewin Cymru.

Mediascene Ltd

Mae Mediascene yn arbenigwyr ymdrin ag ymatebion a phost uniongyrchol wedi'u lleoli yng Nghwm Rhymni ac maent yn cyflogi dros 35 o bobl. Rydym wedi bod mewn busnes ers 1984.

Principality Consulting Limited

Mae Principality Consulting Limited, a leolir yng Nglynebwy yn dîm gwella busnes amlddisgyblaethol. Cafodd y cwmni ei greu yn 2003 pan brynodd y rheolwyr y cwmni o bractis ymgynghoriaeth cenedlaethol. Am dros ddegawd mae'r cwmni wedi llwyddo i gynorthwyo busnesau i adolygu sut y maent yn gweithio a nodi opsiynau arloesol ar gyfer y perfformiad gorau posibl.

Parkes

Mae Parkes yn gynhyrchwr cynnwys arbenigol sydd wedi'i leoli yn Abertawe am dros 25 mlynedd. Mae gan ein tîm o ymchwilwyr, ysgrifenwyr, golygyddion, arbenigwyr TG a rheolwyr prosiect arbenigedd ym maes dadansoddi'r sector diwydiannol, gwybodaeth a chanllawiau busnes, cyllid, treth, ystadegau, ac ysgrifennu cyffredinol a thechnegol.

Ridgeway Contractors Ltd

Mae Ridgeway Contractors Ltd yn gwmni contractio gwaith allanol sy'n ymgymryd â chontractau gosod sylfeini, ffensio, dwr gwastraff, carthffosiaeth a thirlunio ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r cwmni wedi'i leoli ym mhentref Llangwm ar gyrion tref Brynbuga, Sir Fynwy.

Morganstone Ltd

Mae Morganstone, sydd wedi'i leoli yn Llanelli Gate ac sy'n gweithredu ledled De Cymru, yn gwmni adeiladu a datblygu sy'n ymgymryd â chontractau ar gyfer adeiladau newydd a gwaith adnewyddu ar ran cleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mike Wilkes & Son Ltd

Mike Wilkes & Son Ltd wedi cael ei sefydlu dros 25 mlynedd, gan ddechrau gydag un dyn a fan cwblhau gwaith toi. Mae'r cwmni yn datblygu ac arallgyfeirio dros y blynyddoedd. Mae'r cwmni yn cwmpasu pob math o waith adeiladu, toi a chynnal a chadw, cwblhau contractau ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fel y prif gontractwr.

WebBox Digital

Mae WebBox Digital yn wasanaeth datblygu gwefannau a marchnata ar-lein proffesiynol wedi’i leoli ym Mhenarth, sy’n arbenigo mewn dylunio arloesol a strategaethau marchnata sy’n cynhyrchu enillion ar fuddsoddiad. Rydym yn dîm o saith, gydag arbenigwyr mewn datblygu gwefannau, dylunio graffeg, a strategaethau marchnata ar-lein, fel Pay-Per-Click, SEO, Hysbysebu Facebook a Marchnata drwy E-bost. ...

Matthews Confidential Shredding

Mae Matthews Confidential Shredding yn fusnes teuluol ym Mhenlle’r-gaer, Abertawe. Rydym yn gwmni bach sy’n cyflogi 4 o bobl sy’n cynnig Diogelwch a Thawelwch Meddwl i lawer o sefydliadau ledled de Cymru. Yn syml, rydym yn casglu Gwastraff Cyfrinachol o’ch eiddo ac yn ei ddinistrio, yn unol â phrotocolau BS EN 15713:2009, heb gyfaddawdu eich data cyfrinachol.

iData

Mae iData yn gwmni cyfathrebiadau wedi’i hen sefydlu yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Rydym yn edrych ar ffyrdd mae technoleg a chynnyrch newydd yn gallu bod o fantais i’n cleientiaid nawr ac i’r dyfodol. A ninnau’n credu’n angerddol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid, rydym yn ymfalchïo yn ein tîm o arbenigwyr a fydd yn arwain unrhyw gwmni drwy’r pydew o ddewisiadau cyfathrebu sydd ar gael iddynt. ...

Resources for Change

Mae Resources for Change(R4C) yn ymgynghoriaeth dan berchnogaeth y gweithwyr, sy’n ymddwyn mewn modd cyfrifol yn gymdeithasol ac sydd ag enw arbennig o dda am arloesi wrth gynnwys pobl yn eu gwaith. echreuodd Resources for Change fel cwmni ym maes rheoli amgylcheddol c erbyn heddiw rydym yn parhau i gysylltu ein arbenigedd yn y maes hwn gyda’r gwaith o edrych ar integreiddio pobl a'u hamgylchedd.

GPT Environmental

Mae GPT Environmental yn gwmni rheoli llygredd sydd wedi'i leoli yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn arbenigo mewn sawl maes lle y caiff gwaith ei osod ar dendr yn aml, fel gwaredu gwastraff peryglus a gwaith adfer.

Severn Wye Energy Agency

Mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn elusen annibynnol a chwmni di-elw sy’n hybu ynni cynaliadwy a gwresogi fforddiadwy. Mae’n gwneud hynny trwy weithio mewn partneriaeth, codi ymwybyddiaeth, arloesi a gweithredu’n strategol. Ein nod yw helpu’r cymunedau a wasanaethwn i fwynhau manteision ynni heb leihau gallu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un peth.